Newyddion S4C

Tri Chymro yn rhan o ddyrchafiad Ipswich i Uwch Gynghrair Lloegr

04/05/2024
ipswich.png

Mae tri Chymro yn rhan o ddyrchafiad Ipswich i Uwch Gynghrair Lloegr.

Roedd Nathan Broadhead, Wes Burns a Kieffer Moore ymysg y chwaraewyr a wnaeth sicrhau dyrchafiad o'r Bencampwriaeth y tymor hwn.

Dyma'r tro cyntaf ers 22 mlynedd i Ipswich sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Lloegr, ar ôl iddyn nhw guro Huddersfield o 2-0 brynhawn Sadwrn.

Dyma'r ail dymor yn olynol i'r clwb sicrhau dyrchafiad, ar ôl cael eu dyrchafu o Adran Un y tymor diwethaf.  

Fe sgoriodd Wes Burns y gôl gyntaf yn erbyn Huddersfield brynhawn Sadwrn. 

Fe gafodd Nathan Broadhead ei eni a'i fagu ym Mangor, cyn mynd ymlaen i chwarae dros glybiau Everton, Sunderland, Wigan Athletic ac Ipswich. 

Mae wedi chwarae rhan ganolog i lwyddiant Ipswich y tymor hwn, gan sgorio 13 gôl.

Ymunodd Kieffer Moore â'r clwb ym mis Ionawr eleni ar fenthyg o Bournemouth am weddill y tymor, ac mae wedi sgorio saith gôl ers hynny. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.