Newyddion S4C

Sadiq Khan yn ennill y ras i fod yn Faer Llundain am y trydydd tro

04/05/2024

Sadiq Khan yn ennill y ras i fod yn Faer Llundain am y trydydd tro

Mae Sadiq Khan wedi ennill y ras i fod yn Faer Llundain am y trydydd tro, y person cyntaf i wneud hynny ers dechrau datganoli.

Dau dymor yr un enillodd ei ragflaenwyr Ken Livingstone a Boris Johnson.

Sicrhaodd Sadiq Khan Llafur ychydig dros 1,088,000 o bleidleisiau i gael ei ail-ethol yn Faer Llundain.

Roedd ganddo fwyafrif o tua 275,000 dros yr wrthwynebydd Ceidwadol Susan Hall, a sicrhaodd ychydig yn llai na 813,000 o bleidleisiau.

Roedd rhai wedi rhagweld dros y 48 awr diwethaf y byddai yn ras agos yn Llundain ar sail nifer y pleidleiswyr yn y gwahanol etholaethau.

Dywedodd Sadiq Khan ei fod yn “bryd” i’r Prif Weinidog Rishi Sunak alw etholiad cyffredinol.

“Rwy’n addo canolbwyntio’n ar yr holl faterion y mae Llundeinwyr yn poeni amdanynt: costau byw cynyddol, trosedd ar ein strydoedd, digartrefedd, tai fforddiadwy.

“Am yr wyth mlynedd diwethaf, mae Llundain wedi bod yn nofio yn erbyn llanw llywodraeth Dorïaidd, a nawr, gyda Phlaid Lafur sy’n barod i lywodraethu eto o dan Keir Starmer, mae’n bryd i Rishi Sunak roi dewis i’r cyhoedd."

Yn y cyfamser fe enillodd Steve Rotheram drydydd tymor yn Faer ar Ranbarth Dinesig Lerpwl, ac fe enillodd Oliver Coppard yn Ne Swydd Efrog.

Mae Andy Burnham hefyd wedi’i ail-ethol yn Faer Manceinion Fwyaf.

Ddydd Gwener, roedd buddugoliaeth Ben Houchen i'r Ceidwadwyr yn ras maer Tees Valley yn newyddion da prin i’r blaid.

Llun gan Stefan Rousseau / PA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.