Newyddion S4C

Teulu bachgen 13 oed fu farw mewn gwrthdrawiad yn galw am ddedfrydau llymach

04/05/2024
Kaylan Hippsley

Mae teulu bachgen 13 oed fu farw wedi gwrthdrawiad yng Nghwm Cynon wedi galw am gynyddu dedfrydau am farwolaethau sydd wedi eu hachosi gan yrru yn beryglus.

Bu farw Kaylan Hippsley, o Hirwaun yn dilyn y gwrthdrawiad ar Heol Aberhonddu ar 29 Chwefror.

Ddydd Mawrth fe gafodd Harley Whiteman o Hirwaun ei garcharu am chwe blynedd a naw mis mewn sefydliad troseddau ieuenctid am achosi marwolaeth drwy yrru yn beryglus. 

Mae teulu Kaylan wedi sefydlu deiseb yn galw ar newid y gyfraith er mwyn cynyddu isafswm dedfrydau yn ymwneud â marwolaethau sydd wedi eu hachosi gan yrru yn beryglus. 

Fe gafodd y gyfraith yn ymwneud â marwolaeth drwy yrru yn beryglus ei newid ym mis Mehefin 2022, gan alluogi llysoedd i roi dedfryd oes i ddigwyddiadau ar ôl y dyddiad hwn.

Ond dyw'r canllawiau dedfrydu presennol ddim yn cyd-fynd gyda'r gyfraith newydd, gan gynnig dedfryd isafswm o ddwy flynedd ac uchafswm o 12 mlynedd, meddai'r teulu. 

Image
harley-whiteman
Fe gafodd Harley Whiteman o Hirwaun ei garcharu am chwe blynedd a naw mis.

'Ein teulu wedi ei chwalu'

Dywedodd teulu Kaylan: "Mae ein teulu wedi cael ei chwalu ac yn teimlo wedi ein gadael i law gan y system gyfiawnder sydd fod yna i'n hamddiffyn.

"O'r ddedfryd yma, fe fydd yn treulio dim ond dwy flynedd mewn sefydliad troseddau ieuenctid a blwyddyn yn y carchar cyn y bydd yn rhydd i barhau gyda'i fywyd eto. Mae'n 19 oed ac nid yw felly yn droseddwr ifanc.

"Nid yw'r gosb yn cydfynd â'r drosedd. Mae colled bywyd Kaylan yn barhaol; dylai goblygiadau ei lofrudd adlewrychu'r realiti."

Dywedodd ei deulu bod Kaylan yn fachgen "disglair a deallus."

“Roedd Kaylan yn fachgen mor ddigywilydd. Roedd e mor olygus yn union fel ei dad.

“Roedd Kaylan yn chwaraewr rygbi a phêl-droed dawnus ac wrth ei fodd â chwarae gemau ar-lein. Roedd yn fachgen disglair, deallus ac yn ddisgybl hoffus yn Ysgol Gymunedol Aberdâr.

“Roedd wrth ei fodd yn treulio amser gyda’i deulu ac roedd ganddo grŵp gwych o ffrindiau. Rydyn ni mor drist i golli Kaylan mor ifanc, dim ond 13 oed gyda’i holl fywyd o’i flaen."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.