Newyddion S4C

Enillydd Cân i Gymru : Ymgyrch i sicrhau lle i Gymru yn Eurovision

11/05/2024

Enillydd Cân i Gymru : Ymgyrch i sicrhau lle i Gymru yn Eurovision

Mae enillydd Cân i Gymru Sara Davies wedi dweud ei bod yn "biti ddim gallu mynd ymhellach" ar ôl ennill y gystadleuaeth a chipio’r wobr am y Gân Ryngwladol Orau yn yr Ŵyl Ban Geltaidd eleni.

Daw wrth i ymgyrch gael ei lansio i gael Cymru i gystadlu yn yr Eurovision, gyda Sara yn recordio fersiwn arbennig o Anfonaf Angel gan Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn.

Y gân 'Ti' gan Sara Davies a enillodd Cân i Gymru 2024 ym mis Mawrth, a daeth yn fuddugol am berfformio'r gân yn yr Ŵyl Ban Geltaidd ym mis Ebrill.

Wrth siarad â rhaglen Heno nos Wener, dywedodd Sara: "Ers ennill Cân i Gymru a'r Ŵyl Ban Geltaidd, oedd o'n biti nad oedd o'n mynd ymhellach i fynd ar lefel mwy rhyngwladol a rhoi llwyfan i gerddoriaeth Cymraeg a chael pobl i weld bo' ni'n gallu swnio cystal os nad gwell na gwledydd eraill."

Label recordio Coco & Cwtsh sydd wedi lansio'r ymgyrch i sicrhau lle i Gymru yn Eurovision.

"Nhw gath y syniad, a nhw oedd yn awyddus iawn i neud o a nhw oedd yn gobeithio cael cân oedd pobl yn 'nabod a rhoi sbin rili gwahanol a chael pobl i glywed fersiwn newydd o gân adnabyddus," meddai Sara.

"Yn y music video, y nod oedd i gael naws rili hwyliog a bod o'n lliwgar, glitter, pobl yn dawnsio a cael blas ar be' fysa Cymru yn gallu neud os byse ni yn cael yr hawl i gystadlu.

"Dwi'm yn meddwl bo' chdi'n gallu mynd yn fwy Eurovision na be' 'dan ni wedi neud."

Er mwyn cymryd rhan yn Eurovision, mae angen i wlad fod yn aelod o’r Undeb Darlledu Ewropeaidd (EBU), a dim ond un darlledwr all feddu ar y staws hwnnw fesul tiriogaeth.

Ar hyn o bryd, y BBC yw’r aelod ar gyfer y DU, ac felly maen nhw’n gyrru ymgeisydd ar ran y DU. 

Dywedodd Eurovision: “Fel yr aelod Prydeinig o’r EBU sy’n cymryd rhan yng nghystadleuaeth caneuon yr Eurovision, mae’r BBC yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig gyfan yn y gystadleuaeth. Does dim cynlluniau i newid hyn.”

Ond dywedododd Ffion Gruffudd, Prif Weithredwr Coco & Cwtsh y gallai "weld y math yma o gân yn cynrychioli Cymru yn yr Eurovision".

“Mae’r gân yn enghraifft o’r cyfoeth o dalent cyfansoddi a chynhyrchu sydd gennym yma yng Nghymru, ynghyd â llais anhygoel Sara yn arddangos yr hyn y gallwn greu," meddai.

“Mae Coco & Cwtsh yn credu’n gryf fod gyda ni fel cenedl rywbeth arbennig i’w gynnig i’r gystadleuaeth ac na ddylen ni gael ein cyfyngu rhag cael llais ar y llwyfan pwysig hwn oherwydd materion technegol darlledu.

“Y gobaith yw y bydd Cymru gyfan yn cefnogi cân Sara eleni ac y bydd yn cael pobol i drafod, i ddychmygu ac i ymgyrchu gyda ni.”

**Fe wnaeth yr erthygl yma ymddangos ar wefan Newyddion S4C am y tro cyntaf ar 4 Mai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.