Newyddion S4C

Boris Johnson yn 'diolch' i dri pherson a wnaeth ei atal rhag pleidleisio

04/05/2024
Boris Johnson

Mae Boris Johnson wedi dweud "diolch" i dri o bobl a wnaeth ei atal rhag pleidleisio gan nad oedd ganddo gerdyn ID ddydd Iau. 

Wrth ysgrifennu i'r Daily Mail, dywedodd Mr Johnson ei fod wedi ceisio defnyddio copi o gylchgrawn Prospect fel dull adnabod, ond fe gafodd ei atal gan swyddogion.

"Dwi eisiau rhoi teyrnged yn benodol i'r tri o bobl a wnaeth fy atal rhag pleidleisio ddydd Iau pan ymddangosais mewn gorsaf bleidleisio gyda neb i brofi fy hunaniaeth heblaw am fy nghopi o gylchgrawn Prospect, oherwydd roedd fy enw a fy nghyfeiriad wedi cael eu printio arno," meddai.

"Dangosais y copi iddyn nhw ac fe wnaethom nhw edrych yn amheus iawn...o fewn munudau ro'n i nol gyda fy nhrwydded gyrru a phleidleisio dros y Ceidwadwyr."

Cyflwynwyd y gofyniad i ddarparu ID â llun gan Mr Johnson yn ystod ei amser yn Downing Street fel rhan o Ddeddf Etholiadau 2022.

Mae ffurfiau derbyniol o ID yn cynnwys pasbort, trwydded yrru, cardiau Cynllun Safonau Prawf Oed, Bathodynnau Glas, a rhai cardiau teithio.

Mae’r Llywodraeth yn San Steffan hefyd wedi dweud ei bod yn bwriadu gwneud cardiau adnabod cyn-filwyr yn ddull dilys o adnabod pleidleiswyr ar ôl i gyn-aelodau’r lluoedd arfog gael eu troi i ffwrdd o orsafoedd pleidleisio.

Llun gan Victoria Jones / PA.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.