Newyddion S4C

Rhybudd bod fentanyl wedi ei gymysgu mewn 'batsh niweidiol o gocên'

04/05/2024
Cyffuriau

Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi rhybuddio pobl sy'n cymryd cyffuriau i gymryd gofal ychwanegol dros benwythnos Gŵyl y Banc.

Daw hyn wedi adroddiadau fod "batsh niweidiol o gocên yn mynd o gwmpas".

Dywedodd y llu eu bod yn credu bod batsh o gyffuriau sy'n cael ei werthu fel cocên wedi cael ei gymysgu gyda fentanyl opiad, sy'n gyffur synthetig sy'n cael ei ystyried 50 gwaith yn fwy grymus na heroin.

"Mae ei gryfder yn golygu y gall hyd yn oed swm bach ohono fod yn angheuol," meddai'r llu.

Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un sy'n cymryd cyffuriau i gael sylw meddygol ar unwaith os ydynt yn dechrau teimlo'n sâl.

Ychwanegodd y llu y dylid galw 999 bob tro mewn argyfwng neu os ydy bywyd person mewn perygl.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.