Newyddion S4C

Trafodaethau undebau â Tata ‘wedi torri i lawr’

03/05/2024
Port Talbot

Mae undebau sy'n cynrychioli gweithwyr yng nghwmni dur Tata yn dweud bod trafodaethau am gynlluniau i gau ffwrneisi chwyth yn y ffatri ym Mhort Talbot wedi torri i lawr.

Dywedodd Community, y GMB ac Unite mewn datganiad ar y cyd fod y cwmni wedi “diystyru’n llwyr” effaith eu cynlluniau ar y gweithwyr a chymunedau lleol.

Mae Tata yn bwriadu newid i ddull mwy ecogyfeillgar o gynhyrchu dur yn y ffatri ym Mhort Talbot, ond bydd hynny’n arwain at golli miloedd o swyddi.

Mae aelodau Unite wedi pleidleisio i streicio, tra bod Community a’r GMB ar hyn o bryd yn holi eu haelodau a ydyn nhw am weithredu’n ddiwydiannol.

Dywedodd yr undebau y bydd unrhyw weithredu diwydiannol yn digwydd “gyda’i gilydd, mewn ffordd strategol”.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol undeb Community, Roy Rickhuss: “Mae’n siomedig bod y trafodaethau gyda Tata wedi chwalu heb ddod i gytundeb.

“Ond mae cynigion y cwmni yn gwbl annerbyniol.

“Mae Tata eisiau cael ei weld fel cyflogwr gofalgar a chyfrifol, ond y gwir amdani yw eu bod yn benderfynol o dorri swyddi a chosbi eu gweithwyr mwyaf bregus.

“Rydym wedi dweud wrth y cwmni yn y ffordd gliriaf posib nad yw eu gweithredoedd a’u methiant i gymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon yn ddigon da.

 “Byddwn yn awr yn ymgynghori â’n haelodau ar ein camau nesaf.”

‘Gwyrdd’

Dywedodd llefarydd ar ran Tata Steel: “Yn dilyn saith mis o rannu gwybodaeth ac ymgynghori, yr wythnos diwethaf fe wnaethom gadarnhau y byddwn yn bwrw ymlaen â’n cynlluniau ailstrwythuro a buddsoddi £1.25 biliwn mewn gwneud dur gwyrdd i sicrhau dros 5,000 o swyddi yn Tata Steel UK.

“Yr wythnos hon rydym wedi parhau â’n trafodaethau agored ac adeiladol gyda phartneriaid yn yr undebau llafur drwy gyfrwng Pwyllgor Dur y DU.

“Yr wythnos hon rydym wedi cyflwyno cynnig hael sy’n cynnwys pecyn cymorth gwell i weithwyr ar 22 Mawrth yn ogystal â chynnig hael ar gyfer cynllun sgiliau ac ailhyfforddi ar gyfer gweithwyr sy’n cael eu diswyddo’n anwirfoddol, a fyddai wedi caniatáu i bobl ddewis parhau i gael eu cyflogi gan y cwmni ar delerau diwygiedig am hyd at flwyddyn arall tra byddant yn ailhyfforddi ac yn sicrhau cyflogaeth gyda chyflogwr arall.

“Heddiw, rydym wedi oedi’r trafodaethau hynny heb ddod i gytundeb. 

“Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar greu diwydiant dur cynaliadwy yn y DU sy’n cefnogi cadwyni cyflenwi gweithgynhyrchu a chymunedau dur trwy drawsnewid i gynhyrchu dur CO2 isel.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.