Carchar i ddyn o'r Felinheli am geisio cyflenwi crac cocên
Mae dyn o’r Felinheli wedi derbyn dedfryd carchar ar ôl ei gael yn euog o feddu ar crac cocên.
Roedd Thomas Richard Belmont, 52 oed, o Terfyn Terrace, Y Felinheli, yn euog o fod â'r cyffur yn ei feddiant gyda’r bwriad o’i gyflenwi.
Fe wnaeth dderbyn dedfryd o ddwy flynedd a hanner yn y carchar ar ôl i Lys y Goron Caernarfon ei gael yn euog.
Cafodd Belmont ei arestio am y drosedd yn Kings Avenue, y Rhyl, fis Mehefin 2022.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Claire Owen: “Mae hon wedi bod yn broses hir i ddod â Belmont i gyfiawnder, ond mae’n tanlinellu ein penderfyniad i amddiffyn ein cymuned rhag y niwed a achosir gan linellau sirol (county lines) a’r gangiau troseddol cysylltiedig sy’n dod â thrallod i’n trefi.
“Rwy’n croesawu’r ddedfryd, sy’n atgoffa pobl y byddwn yn mynd ar drywydd y rhai sy’n ceisio cyflawni gweithgarwch troseddol.”