Giro D'Italia: Geraint Thomas yn 'hyderus' ar ôl colli'r ras o 14 eiliad y llynedd
Giro D'Italia: Geraint Thomas yn 'hyderus' ar ôl colli'r ras o 14 eiliad y llynedd
Ar ôl y siom o orffen yn ail o 14 eiliad yn y Giro d'Italia y llynedd, bydd Geraint Thomas ymysg yr enwau mawr ar linell gychwyn y ras eto yn Turin ddydd Sadwrn.
Roedd y Cymro ar y blaen am dros hanner y daith yn 2023, ond fe gollodd ar y diwrnod olaf wrth i Primož Roglič gipio'r crys pinc.
Fe fydd Thomas, 36 oed, yn rhan o dîm Ineos Grenadiers eto eleni ac yn anelu i ennill y ras am y tro cyntaf yn ei yrfa.
"Roeddwn i wedi crasho allan o’r ras yn 2017 a 2020, pan oeddwn i’n teimlo fel fy mod yn ffit, roedd hynny’n rhwystredig ond o leiaf llynedd, gyda’r holl heriau cyn cychwyn y ras gyda’r haint yma yn dod yn ôl a’r ymarfer anghyson," meddai.
"Ond i fod yna yn cystadlu a gwisgo’r crys pinc am hanner y ras, ac yna yn amlwg ei golli ar y diwrnod olaf ddim yn ddelfrydol."
Enillodd Thomas y Tour de France yn 2018, ond ei ail safle yn 2023 yw'r agosaf mae'r gŵr o Gaerdydd wedi dod at ennill y Giro yn ei yrfa hyd yma.
Y ffefryn mawr eleni yw Tadej Pogačar, o Slofenia, enillydd y Tour de France yn 2020 a 2021.
Ond gyda'r ras 3,321.2 km o hyd yn dechrau fore Sadwrn, mae Thomas yn gwybod y gall unrhyw beth ddigwydd yn y byd chwaraeon.
Ychwanegodd: "Fel rydym yn gwybod, mewn unrhyw gamp, mae llawer yn gallu digwydd, mae llawer yn gallu mynd yn gywir ac anghywir, ac mae angen i chi gredu bod gennych chi gyfle, neu does dim pwynt troi fyny nac oes?
"Rydym yn hyderus, mae gennym ni dîm cryf ac yn gallu gwneud rhywbeth yn y ras yma."