Y Cymro Luke Rowe yn ymddeol o seiclo oherwydd problemau cyfergyd
Mae’r Cymro Luke Rowe wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o seiclo proffesiynol ar ddiwedd y tymor.
Fe wnaeth Rowe, 34 oed, sydd yn rhan o dîm Ineos Grenadiers, wneud y cyhoeddiad mewn sgwrs gyda’i gyfaill, y seiclwr Geraint Thomas, ar bodlediad Watts Occurin' ddydd Gwener.
Fe fydd Rowe, o Gaerdydd, yn gorffen ei yrfa ar ddiwedd y tymor oherwydd problemau gyda chyfergyd (concussion), yn dilyn damwain mewn ras yng Ngwlad Belg fis Mawrth.
Yn rhan o Team Sky, a thîm Ineos Grenadiers yn ddiweddarach ers 2012, roedd Rowe yn rhan bwysig o’r tîm yn ystod cyfnod fwyaf llewyrchus seiclo Prydeinig.
Inline Tweet: https://twitter.com/INEOSGrenadiers/status/1786320170354442581
Bu’n capten o’r tîm enillodd y Tour de France ar bum mlynedd yn olynol, gan gynorthwyo Chris Froome mewn tair buddugoliaeth, yn ogystal â buddugoliaethau Geraint Thomas ac Egan Bernal.
Ar ôl dioddef ei gyfergyd ddiweddaraf fis Mawrth, mae’n gobeithio dychwelyd i rasio eto cyn diwedd y tymor ar ôl gwella o’i anaf.
Dywedodd: “Mae gen i gymaint o atgofion anhygoel ac rydw i wedi caru pob rhan o fod yn feiciwr proffesiynol. Rwyf wedi cael gyrfa anhygoel a dwi ddim yn difaru unrhyw beth.
“Ond mae’r 18 mis diwethaf wedi fy rhoi ar brawf mewn gwahanol ffyrdd a gyda’r ddamwain ddiweddaraf a’r anaf dilynol, mae’n teimlo mai nawr yw’r amser iawn i ymgrymu, mynd adref i Gymru a threulio ychydig mwy o amser gyda fy nheulu.”
Llun: Facebook/Luke Rowe