Newyddion S4C

Pwysau ar ysgolion a disgyblion cyn cyfnod arholiadau

03/05/2024

Pwysau ar ysgolion a disgyblion cyn cyfnod arholiadau

Ar safle clwb pêl-droed Bethel yng Ngwynedd nid tactegau ar y cae, ond tactegau mathemateg sy'n cael eu trafod yma.

Yn aelodau o academi mathemateg Sbarduno fe fydd gan y disgyblion blwyddyn 10 ac 11 yma arholiadau'n fuan.

"Dw i wedi ysgrifennu nodiadau, sbio drostyn nhw a darllen nhw loads. Efallai wna i ysgrifennu nhw lawr eto i drio cofio nhw. Dw i'n teimlo'n nerfus ond yn barod a jyst eisiau cael nhw drosodd."

"Dw i'n hyderus am Health and Social oherwydd dw i 'di wneud yn dda yn yr arholiad ffug felly gobeithio wna i wneud yn dda. Ond Physics dw i ddim, na. Wna i drio gorau fi achos dyna'r peth gorau ti'n gallu gwneud."

Wrth i'w plant baratoi am yr ymdrech fawr i ddod mae rhieni'n cefnogi o'r ochrau. Mae'n anodd achos chi'n gweld eich plentyn yn poeni am rywbeth.

"Cefnogi ydy'r unig peth fedra i wneud. Fel rhiant, mae'n gyfnod pryderus i ni gyd oherwydd ni'n poeni am ein plant yn enwedig bod e'n gyfnod mor bwysig iddyn nhw gyda'r arholiadau."

Mae sesiynau adolygu'n cael eu cynnig dros y gwyliau, a'r rheiny'n boblogaidd meddai pennaeth y cwmni yma. Mae 'na bwysau mawr mewn ysgolion oherwydd mae angen gorffen y cwricwlwm mewn amser. Ar ben hynny, maen nhw angen cael yr amser i gael y dechneg yn iawn.

"Mae'r amser yn brin yn yr ysgol. Mae'r gefnogaeth ychwanegol nid yn unig i'r rhieni a'r disgyblion, mae o i'r ysgolion hefyd."

"No-one in the book is perfect."

Yng Nghaerdydd, adolygu am bapur Saesneg sy'n cael sylw y teulu yma. Bydd eu mab yn sefyll rhai arholiadau TGAU eleni ond mae Kamalagita Hughes hefyd yn hyfforddi meddwlgarwch.

"Mae'n bwysig bwyta bwyd iachus, cysgu digon a mynd mas i'r awyr ffres. Dw i'n awgrymu rhieni i beidio a phoeni ac i gefnogi'r plant."

Mae arholiadau'n mynd nôl i'r drefn cyn y pandemig eleni. Roedd yna wybodaeth o flaen llaw i helpu gyda adolygu llynedd. Ond mae effaith blynyddoedd Covid i'w weld o hyd ar blant.

"Roedd rhai o'r plant wedi colli mas gyda Blwyddyn 6, cael Blwyddyn 7 chaotic achos y cyfnod clo. Dw i'n teimlo'n rili gryf bod nhw angen mwy o gymorth."

Yn ôl Cymwysterau Cymru mae penderfyniadau am arholiadau'n cael eu gwneud ar ôl ystyried beth sydd orau i ddysgwyr ynghyd a'r angen i gynnal hyder yn y graddau.

Yn y cyfamser, mae sylw miloedd o ddisgyblion ar y gic gyntaf a dechrau'r arholiadau o fewn dyddiau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.