Newyddion S4C

Teyrngedau i gricedwr dawnus sydd wedi marw'n 20 oed

03/05/2024
Josh Baker

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gricedwr ifanc dawnus sydd wedi marw yn 20 oed.

Roedd Josh Baker yn aelod o Glwb Criced Sir Gaerwrangon ac roedd wedi chwarae 22 o weithiau ers iddo droi'n broffesiynol yn 2021.

Mewn datganiad, dywedodd y clwb: "Mae Clwb Criced Sir Gaerwrangon yn drist i gyhoeddi marwolaeth Josh Baker, oedd ond yn 20 oed.

"Trodd Josh yn broffesiynol gyda’r Clwb yn 2021 a buan iawn y daeth yn ffigwr poblogaidd o fewn y garfan. 

"Yn fwy na’i sgiliau fel bowliwr troelli, ei ysbryd bywiog a’i frwdfrydedd heintus...roedd ei gynhesrwydd, ei garedigrwydd a’i broffesiynoldeb yn rhyfeddol, gan ei wneud yn wir glod i’w deulu ac yn aelod annwyl o’n tîm."

Dywedodd Ashley Giles, Prif Swyddog Gweithredol Sir Gaerwrangon: “Mae’r newyddion am farwolaeth Josh wedi ein gadael ni i gyd wedi’n dryllio.

“Roedd Josh yn llawer mwy na chyd-chwaraewr; roedd yn rhan annatod o'n teulu criced.

“Byddwn ni i gyd yn gweld ei eisiau yn ofnadwy. Mae ein holl gariad a gweddïau yn mynd allan i deulu a ffrindiau Josh.”

Mae’r clwb wedi cynnig cefnogaeth i deulu, ffrindiau a chydweithwyr Josh meddai llefarydd:

"Rydym yn unedig yn ein galar ac yn ymroddedig i anrhydeddu ei atgof mewn modd sy'n gweddu i'r person hynod yr oedd.

"Bydd cynlluniau i dalu teyrnged i Josh yn cael eu gwneud mewn ymgynghoriad â'i deulu a bydd yn aros yn breifat ar hyn o bryd. 

"Mae’r Clwb, ynghyd â theulu Josh, yn gofyn am barch tuag at ein preifatrwydd wrth i ni alaru am y golled aruthrol hon."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.