Newyddion S4C

Rhieni Madeline McCann yn cyhoeddi neges 17 mlynedd ers ei diflaniad

03/05/2024
madeleine mccann

Mae rhieni Madeline McCann wedi cyhoeddi neges yn dweud bod absenoldeb y ferch fach o'i bywydau yn parhau i achosi loes.

Fe ddiflannodd Madeline o Praia da Luz, Portiwgal, union 17 o flynyddoedd yn ôl tra'r oedd ar wyliau teulu.

Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol, dywedodd ei rhieni Kate a Gerry McCann eu bod yn ddiolchgar i'r cyhoedd am eu cefnogaeth

"Mae'n 17 mlynedd ers i Madeleine gael ei chymryd oddi wrthym ni.

“Mae’n anodd hyd yn oed dweud y rhif hwnnw heb ysgwyd ein pennau mewn anghrediniaeth.

"Er ein bod ni'n ffodus mewn sawl ffordd ac yn gallu byw bywyd cymharol normal a phleserus nawr, mae 'byw mewn limbo' yn parhau i fod yn gythryblus iawn. 

"Ac mae'r absenoldeb yn dal i achosi poen.

"Mae eich cefnogaeth yn parhau i'n hannog ac yn hybu ein cryfder i ddal ati. 

"Rydym yn gwybod bod cariad a gobaith at Madeleine ac mae'r ewyllys i ddod o hyd iddi, hyd yn oed ar ôl cymaint o flynyddoedd, yn parhau, ac rydym yn wirioneddol ddiolchgar am hynny."

 
 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.