Dechrau cyfri'r pleidleisiau yn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu
Fe fydd pleidleisiau yn dechrau cael eu cyfrif ar gyfer etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd yng Nghymru fore Gwener.
Mae disgwyl i'r pedwar enillydd, un ar gyfer pob llu yng Nghymru, gael eu cyhoeddi brynhawn Gwener.
Fe fydd comisiynydd yn cael ei ethol ar gyfer Heddlu’r Gogledd, Heddlu’r De, Heddlu Gwent a Heddlu Dyfed-Powys.
Prif waith Comisiynwyr ydy penodi'r prif gwnstabl, a'u diswyddo os oes angen, gosod y gyllideb ar gyfer eu llu a nodi blaenoriaethau’r awdurdodau plismona lleol.
Fe gafodd y Comisiynwyr cyntaf eu hethol yng Nghymru a’r rhan fwyaf o Loegr yn 2012 dan arweiniad y cyn-Brif Weinidog David Cameron, gan gymryd lle awdurdodau’r heddlu oedd yn gyfrifol am y gwaith ynghynt.
Y nod ar y pryd oedd sicrhau fod lluoedd yr heddlu yn fwy gweledol i’w cymunedau lleol, gan geisio eu gwneud yn fwy atebol i drigolion a’u diogelwch.
Mae’r etholiadau yn cael eu cynnal pob pedair blynedd, gyda'r rhai diweddaraf wedi cael eu cynnal ddydd Iau.
Ymgeiswyr Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd:
Heddlu Gogledd Cymru
Andy Dunbobbin, Llafur Cymru
Ann Griffith, Plaid Cymru
Brian Jones, Ceidwadwyr Cymru
David Richard Marbrow, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Heddlu Dyfed-Powys
Justin Griffiths, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Ian Harrison, Ceidwadwyr Cymru
Dafydd Llywelyn, Plaid Cymru
Philippa Ann Thompson, Llafur Cymru
Heddlu Gwent
Donna Cushing, Plaid Cymru
Mike Hamilton, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Hannah Jarvis, Ceidwadwyr Cymru
Jane Mudd, Llafur Cymru
Heddlu De Cymru
Sam Bennett, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
George Carroll, Ceidwadwyr Cymru
Dennis Clarke, Plaid Cymru
Emma Wools, Llafur Cymru