Newyddion S4C

Boris Johnson wedi ei atal rhag pleidleisio gan nad oedd ganddo gerdyn ID

03/05/2024
Boris Johnson

Cafodd y cyn brif weinidog Boris Johnson ei atal rhag bwrw pleidlais mewn gorsaf bleidleisio ar ôl anghofio dod ag ID oedd yn cynnwys llun ohono'i hun.

Mae asiantaeth newyddion PA yn deall bod staff yr orsaf bleidleisio wedi dweud wrth Mr Johnson na fyddai'n gallu pleidleisio heb brofi pwy oedd o, wrth iddo ymgeisio i bleidleisio ddydd Iau.

Cyflwynwyd y gofyniad i ddarparu ID â llun gan Mr Johnson yn ystod ei amser yn Downing Street fel rhan o Ddeddf Etholiadau 2022.

Y gred yw bod Mr Johnson wedi gallu pleidleisio yn ddiweddarach, a'i fod wedi pleidleisio i'r Ceidwadwyr.

Etholiad dydd Iau yw’r tro cyntaf i lawer o bleidleiswyr yng Nghymru a Lloegr orfod cyflwyno ID i bleidleisio o dan ddarpariaethau a gyflwynwyd gyntaf yn etholiadau lleol y llynedd.

Mae ffurfiau derbyniol o ID yn cynnwys pasbort, trwydded yrru, cardiau Cynllun Safonau Prawf Oed, Bathodynnau Glas, a rhai cardiau teithio.

Mae’r Llywodraeth yn San Steffan hefyd wedi dweud ei bod yn bwriadu gwneud cardiau adnabod cyn-filwyr yn ddull dilys o adnabod pleidleiswyr ar ôl i gyn-aelodau’r lluoedd arfog gael eu troi i ffwrdd o orsafoedd pleidleisio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.