Newyddion S4C

Swyddogion yr heddlu ‘heb gyfrannu at farwolaeth Mohamud Hassan’

02/05/2024
Mohamud Hassan

Ni wnaeth heddweision gyfrannu at farwolaeth dyn fu farw yng Nghaerdydd yn 2021, yn ôl ymchwiliad annibynnol.

Dywedodd ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) nad oedd tystiolaeth i gefnogi honiadau bod Mohamud Hassan wedi cael ei drin yn llai ffafriol oherwydd ei hil.

Doedd dim tystiolaeth chwaith bod swyddogion wedi ymosod ar y dyn fu farw 14 awr ar ôl iddo gael ei ryddhau o ddalfa’r heddlu, medden nhw.

Bu farw Mohamud Hassan, 24, mewn fflat ar Heol Casnewydd yng Nghaerdydd ym mis Ionawr 2021.

Roedd wedi cael ei arestio’r noson gynt ar amheuaeth o darfu ar yr heddwch yn dilyn adroddiadau o aflonyddwch mewn eiddo.

Sbardunodd ei farwolaeth brotestiadau yng Nghaerdydd lle bu galwadau i'r heddlu ryddhau delweddau yn cofnodi eu cysylltiad ag ef.

Cafodd canlyniad ymchwiliad yr IOPC ei gyhoeddi yn dilyn cwest i farwolaeth Mr Hassan a gofnododd reithfarn agored.

Dywedodd y Crwner wrth y rheithgor nad oedd unrhyw dystiolaeth i gefnogi canfyddiad bod unrhyw weithredoedd gan yr heddlu neu weithwyr meddygol proffesiynol wedi cyfrannu at farwolaeth Mr Hassan.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Joanna Maal: “Ni allwn ond dychmygu pa mor anodd fu’r cyfnod hwn o amser i deulu Mohamud Hassan a’r boen a’r galar y maent wedi’i ddioddef ers ei farwolaeth. 

“Mae’r achos hwn wedi bod yn destun llawer o graffu annibynnol a chyhoeddus. 

“Nawr bod y ffeithiau wedi’u cyhoeddi a’u clywed yn ystod trafodion y cwest rydym yn gobeithio bod atebion wedi’u darparu i’r llu o gwestiynau a godwyd.”

Mewn datganiad ar ôl y cwest dywedodd teulu Mr Hassan bod "ein calonnau wedi eu torri”.

“Rydyn ni’n gweld eisiau Mohamud bob dydd ac ni ellir byth llenwi’r twll y mae ei farwolaeth yn ei adael yn ein teulu.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.