
Beirniadu elusen Tearfund am ddileu ei holl swyddi Cymreig

Beirniadu elusen Tearfund am ddileu ei holl swyddi Cymreig
Mae Aelod o'r Senedd a chyn-gyfarwyddwr wedi beirniadu elusen am ddileu ei holl swyddi Cymreig.
Dair blynedd nol, roedd pedwar yn gweithio i Tearfund yng Nghymru. Ond ar ôl proses ailstrwythuro, maen nhw nawr yn cael gwared ar yr aelod olaf o staff yma.
Mae Tearfund yn dweud eu bod nhw wedi gorfod gwneud "penderfyniadau anodd" oherwydd eu sefyllfa ariannol.
Elusen Gristnogol yw Tearfund sydd yn gweithio i ddileu tlodi mewn 50 o wledydd ar draws y byd.
Ers 1987, maen nhw'n cyflogi staff yng Nghymru.
Yn ôl Hywel Meredydd Davies (uchod), fu'n gyn-gadeirydd a chyn-gyfarwyddwr Cymreig ar Tearfund Cymru, mae'r penderfyniad yn siomedig.
Dywedodd wrth raglen Newyddion S4C:"Wrth gwrs mae gan Tearfund yr hawl i benderfynu, fel maen nhw wedi gwneud yn barod, yn dawel a heb adael i'w gwirfoddolwyr a chefnogwyr wybod, eu bod nhw wedi dileu swyddi yng Nghymru. Dyna eu penderfyniad nhw.
"Ond ar yr un pryd, maen nhw'n elusen Gristnogol sydd o blaid y gwan. A pan maen nhw'n ceisio hyrwyddo gwledydd gwan a rhoi rhyddid iddyn nhw wneud penderfyniadau, siawns y dylia nhw gefnogi gwlad lai ym Mhrydain a rhoi iddi'r chwarae teg mae'n ei haeddu?"
Mae Newyddion S4C yn deall i'r elusen godi dros filiwn o bunnoedd yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf.
Tra bod yr unig swydd oedd yn weddill yma nawr yn cael ei thorri, bydd cynrychiolwyr cyflogedig yn parhau gan Tearfund ym mhob gwlad arall o fewn i'r Deyrnas Gyfunol.
Mae’r penderfyniad wedi codi gwrychyn Hywel Meredydd Davies.
"Mae Tearfund wedi trin pedair gwlad Prydain Fawr yn gyfartal [yn y gorffennol] ond mae'r ffaith bod nhw yn dileu swyddi yng Nghymru yn dangos anghyfartaledd ac annhegwch,” meddai.
“Byddwn i'n meddwl, o ran galwad i ailystyried bod [angen iddyn] nhw sicrhau, fel sydd wedi bod ers degawdau, bresenoldeb cryf iawn yn y Gymry Gymraeg ac yng Nghymru."

'Cyfrifoldeb'
Roedd yr Aelod Senedd Peredur Owen Griffiths yn gweithio i elusen Cymorth Cristnogol cyn camu i'r byd gwleidyddol. Mae e hefyd yn galw ar Tearfund i ailystyried.
"Mae gan y gymuned Gristnogol yng Nghymru sydd yn cefnogi Tearfund ac elusennau eraill galon anferth at y gwaith sydd yn cael ei wneud ar draws y byd,” meddai.
"Byddai ail-gyflogi rhywun yng Nghymru yn dangos bod Tearfund yn cymryd ein pobl ni o ddifrif a hefyd yn cymryd ein hiaith o ddifrif - dyna dwi'n boeni yw bod yr iaith Gymraeg mynd i gael ei cholli o'r mudiad a byddai hynny yn rhywbeth hynod o drist."
Dywedodd Tearfund eu bod nhw'n ddiolchgar i'w holl gefnogwyr yng Nghymru, gan ddweud y byddan nhw'n "parhau i gefnogi Cymru drwy aelodau eraill o staff a gwirfoddolwyr".
Roedden nhw'n nodi hefyd bod rhai o'r gwirfoddolwyr rheini yn siaradwyr Cymraeg.
"Rydyn ni'n poeni'n fawr am bawb sydd yn gweithio i Tearfund ac am edrych ar eu holau nhw i gyd ond mae gennym hefyd gyfrifoldeb i ofalu am arian ein cefnogwyr gan sicrhau ein bod mewn lle da i barhau a'n gwaith chwyldroadol ym mhedwar ban byd," meddai llefarydd mewn datganiad.