'Methu fforddio talu': Pryder bod llai o blant Cymru yn gallu nofio

Mae pryderon am faint o blant yng Nghymru sydd ddim yn gallu nofio oherwydd sgil costau cynyddol a diffyg cyfleusterau.
Roedd data diweddar gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd a Nofio Cymru yn awgrymu mai ond 16% o blant Caerdydd oedd yn gallu nofio.
Dywedodd Cyngor Caerdydd ei fod yn llunio cynllun i wneud yn siŵr bod cymaint o blant â phosib yn cael y cyfle i ddysgu nofio yn yr ysgol.
Yn ôl y data, dim ond 57% o ysgolion cynradd y ddinas wnaeth ddanfon disgyblion i wersi nofio rhwng 2022 a 2023.
Dywedodd athrawes o Ysgol Nant Caerau wrth ITV Cymru Wales y gallai'r "argyfwng costau byw" fod y rheswm pam fod llai o blant yn gwybod sut i nofio.
Dywedodd Mali Bird, athrawes Blwyddyn Pedwar yn Ysgol Nant Caerau fod "gwersi nofio’n ddrud".
"Yn bersonol i fi, mae'n beth mor bwysig," meddai. "Mae nofio yn sgil bywyd i blant a phlant iau yn enwedig y dyddiau hyn.
“Mae mor bwysig iddyn nhw ddatblygu'r sgiliau sylfaenol ar gyfer nofio.
"Rwy'n gwybod bod plant yn fy nosbarth i wedi gweld gwersi nofio yn beth positif iawn yn ystod y pythefnos diwethaf, ac maen nhw methu aros i barhau â'r gwersi nofio."
Pan ofynnwyd pam fod llai o blant yn gwybod sut i nofio, atebodd Ms Bird: "Os ydw i'n hollol onest, yna dwi'n meddwl mai argyfwng costau byw ydy o. Mae gwersi nofio mor ddrud ac ry’n ni'n ddigon ffodus i gael yr ysgol i dalu am y pythefnos o wersi i'r plant allu cael y gwersi nofio."
'Trist iawn'
Mae lefelau gallu nofio yn cael eu hasesu yn erbyn safon Nofio Ysgol a Diogelwch Dŵr.
Mae ffigyrau Caerdydd yn sylweddol is na chyfartaledd Cymru, sef 41%.
Dywedodd yr aelod o bwyllgor craffu economi a diwylliant y brifddinas, y Cynghorydd Catriona Brown-Reckless, ei bod wedi'i syfrdanu gan y ffigurau newydd hyn.
"Roeddwn i'n drist iawn. Rwy'n fam ac mae fy mhlant yn cael nofio ac rwyf am weld plant eraill yn dod i ddysgu sut i nofio," meddai.
Dywedodd Hannah Guise, Rheolwr Dysgu Nofio Cenedlaethol Nofio Cymru fod gwersi nofio yn mynd yn ddrud.
“Y gost ar gyfartaledd ar gyfer gwers nofio yng Nghymru yw £7.66 am wers 30 munud, sydd mewn gwirionedd yn gynnydd o 21 y cant ers 2020,” meddai.
"Felly, mae tu hwnt i'r modd i lawer o bobl yn ein cymuned fforddio talu am wersi nofio. Felly, maen nhw'n dibynnu ar ysgolion yn mynd â'u plant i roi gwersi iddyn nhw ar gyfer y sgiliau achub bywyd hyn."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Dylai nofio fod yn un o’r ystod o weithgareddau corfforol y mae dysgwyr yn cymryd rhan ynddyn nhw fel rhan o’r cwricwlwm newydd i Gymru.
“Rydym yn ariannu menter nofio am ddim Chwaraeon Cymru sy’n darparu o leiaf un sesiwn sblash am ddim bob penwythnos i bobl ifanc ym mhob pwll sy’n cael eu rhedeg gan awdurdod lleol, a dwy sesiwn ychwanegol am ddim yr wythnos yn ystod gwyliau’r haf.”
Llun: ITV Cymru