Newyddion S4C

Ffrind Amy Dowden eisiau ysbrydoli mwy o bobl ifanc i ddawnsio

06/05/2024

Ffrind Amy Dowden eisiau ysbrydoli mwy o bobl ifanc i ddawnsio

Mae dawnsiwr o Ferthyr Tudful sydd wedi ennill pencampwriaethau rhyngwladol yn dweud ei fod yn benderfynol o fod yn ysbrydoliaeth i ddawnswyr ifainc eraill o’r de. 

Fe ddechreuodd Loyd Griffiths ddawnsio yn fachgen 11 oed, pan gymerodd ran mewn cystadleuaeth grŵp dawnsio ar lwyfan Eisteddfod yr Urdd. 

Bellach yn 26 oed, mae Loyd wedi teithio’r byd yn cystadlu fel aelod o stiwdio’r Shappelles yng Nghaerffili – ag yntau wedi bod yn fuddugol mewn sawl cystadleuaeth sy'n cynnwys Pencampwriaeth Genedlaethol Prydain a Phencampwriaeth Dawns y Byd. 

“Mae bach yn crazy i feddwl ‘nes i ddechrau ym Merthyr a nawr dwi’n cystadlu yn erbyn pobl o Ewrop, America, pob man a dwi yna yn cystadlu ar y lefel ucha’ ac mae hynny jyst yn proper pinch me moment,” meddai wrth siarad â Newyddion S4C

Ac wedi i dîm oedolion y Shappelles ddod yn fuddugol ym Mhencampwriaeth Dawns y Byd eleni, mae Loyd yn dweud ei fod yn falch o allu cynrychioli Cymru ar lefel rhyngwladol. 

"'Dyn ni'n mor falch o'n hunan bod ni wedi 'neud hynny a mae'n dda bod dawnsio yng Nghymru jyst yn 'neud jyst yn 'neud mor dda ar y llwyfan yna," meddai.

Image
Loyd Griffiths

'Loyd yw'r glud'

Ar ôl diwrnod o weithio fel athro ysgol gynradd ym Mhont-y-pŵl, mae Loyd yn dychwelyd i stiwdio’r Shappelles yn Ystrad Mynach er mwyn mireinio ei sgiliau, yn ogystal ag arwain gwersi dawnsio yno. 

Y tu hwnt i’r neuadd ddawns mae Loyd hefyd wedi ymddangos ar y sgrin fach ochr yn ochr â’i hen ffrind o stiwdio’r Shappelles, y ddawnswraig Amy Dowden – a hithau'n serennu yn ei chyfres ‘Amy Dowden’s Dare to Dance,’ ar y BBC. 

Esboniodd Loyd: “Dyna pam dwi’n lico ‘neud y pethau yma – bod ar Dare to Dance; cystadlu ar y lefel ryngwladol. 

“Mae’n dangos i’r plant bod nhw’n gallu ‘neud hynny hefyd. 

“A jyst bod nhw o de Cymru, bod nhw jyst yn blant arferol – wel, ‘dyn nhw ddim yn arferol – ma’ nhw yn gallu ‘neud y pethau yma a mae pawb yn gallu ‘neud hynny a dawnsio sy’ di achosi hynny i fi, ac i nhw.”

Image
Loyd Griffiths ag Amy Dowden
Loyd Griffiths ag Amy Dowden

Yn ôl rhai aelodau’r Shapelles, eu hathro yw’r “glud” sy’n cadw’r holl ddawnswyr gyda’i gilydd. 

“Byddwn ni ddim yn gwybod beth ni’n dawnsio, beth ni’n gwneud heb Loyd,” meddai Libby, 16 oed, o'r Coed-duon yng Nghaerffili. 

“Mae fel teulu mewn fan hyn,” ychwanegodd Medi, 15 oed o Ferthyr Tudful, sydd wedi bod yn aelod o’r Shappelles ers iddi fod yn 7 oed.

Image
Aelodau'r Shappelles

'Braint'

Fe gafodd Loyd brofiad o gydweithio gyda rhai o sêr mwyaf eiconig y gyfres ‘Strictly Come Dancing’ fel rhan o ‘Dare to Dance’, ac mae hynny wedi bod yn ‘fraint’ iddo, meddai.

“Ma’ fe jyst yn nyts cael pobl o Strictly yn gweithio gyda fi, yn dawnsio gyda fi, ‘dyn ni’n dod lan gyda choreography gyda’n gilydd… Ma’ fe jyst yn fraint i fod yn gweithio gyda’r bobl yma. 

“Y sêr sydd yn gweithio ar y teledu, sydd yn ‘neud pob dim, a dwi ‘di cael y cyfleodd yna i weithio gyda nhw a dwi yn teimlo fel mai nhw yw fy idols bron a bod.” 

Image
Loyd Griffiths
Loyd Griffiths gydag Oti Mabuse a Carlos Gu o gyfres Strictly Come Dancing

Dywedodd Loyd na fyddai erioed wedi cael y profiadau hynny pe na bai'n ddawnsiwr.

“Byswn i ddim yma heb law bo’ fi ‘di cael y cyfleodd trwy ddawnsio,” meddai.

Yn ôl mudiadau dawns yng Nghymru, mae'n bwysig bod cynrychiolaeth o bob math yn y byd dawns. 

Ac yn ôl Catherine Young, sef Cyfarwyddwr Artistig elusen Dawns i Bawb, mae ymdrech barhaol yn y byd dawns i sicrhau bod digon o gynrychiolaeth.

“Mae'r sector yng Nghymru wedi symud ymlaen yn fawr dros y blynyddoedd ond mae cymaint i'w wneud o hyd ynglŷn â chynrychiolaeth dawnswyr proffesiynol a welwn ar lwyfan - o ran rhyw, gallu, oedran, ethnigrwydd.

“Y newyddion da yw bod newid yn cael ei wneud ac rydym yn dechrau gweld newidiadau cadarnhaol o gynrychiolaeth… Mae Loyd yn rhan o’r newid hwnnw.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.