Newyddion S4C

Galw am Adolygiad Barnwrol i'r penderfyniad i gau dau safle Ambiwlans Awyr yn y gogledd

02/05/2024
Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru

Mae ymgyrchwyr yn y gogledd orllewin a’r canolbarth wedi cyhoeddi eu bod am ddechrau ar y broses o geisio sicrhau Adolygiad Barnwrol yn dilyn penderfyniad i gau dau safle Ambiwlans Awyr er mwyn creu un safle canolog. 

Fe ddaw yn dilyn cyfarfod o Gyd-bwyllgor Comisiynu'r Gwasanaeth Iechyd ddydd Mawrth diwethaf, pan bleidleisiodd y mwyafrif o’r aelodau o blaid argymhelliad i gau safleoedd Ambiwlans Awyr Caernarfon a'r Trallwng unwaith y bydd safle newydd wedi ei ddatblygu.

Ond mae rhai ymgyrchwyr bellach wedi cyhoeddi eu bod am wrthwynebu’r penderfyniad hwnnw, gan alw am Adolygiad Barnwrol. 

Wrth gyhoeddi eu penderfyniad mewn datganiad ar y cyd ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y grwpiau ymgyrchu dros achub safle Ambiwlans Awyr Caernarfon a'r Trallwng nad oes ganddyn nhw “unrhyw opsiwn arall.” 

“Gyda chalon drom, rydyn ni wedi penderfynu mai’r cam mwyaf priodol nawr yw dechrau’r broses o geisio am Adolygiad Barnwrol,” meddai. 

Dywedodd eu bod yn teimlo fod y proses a wnaeth arwain at y penderfyniad i gau’r safle yn “llawn duedd,” a byddai barnwr “yn dod â thryloywder” i’r sefyllfa, gan ymchwilio “i ba raddau roedd y broses yn sicrhau canlyniad a benderfynwyd o flaen llaw.”

Hanes

Cafodd y penderfyniad i gau’r ddau safle a’u huno, o bosib yn ardal Y Rhuddlan yn Sir Ddinbych, ei wneud ar yr amod y bydd gwaith yn cael ei gomisiynu "i gynnig gwelliant pwrpasol ar y ffyrdd a/neu wasanaethau gofal critigol mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell".

Dyma oedd y pedwerydd argymhelliad gafodd ei gymeradwyo, ac fe gafodd ei ychwanegu i'r tri brif argymhelliad yn dilyn pryderon gan y cyhoedd yn ystod y broses o bwyso a mesur y farn gyhoeddus am y newidiadau.

Fe fyddai unrhyw "welliant pwrpasol" i wasanaethau'r ffyrdd neu wasanaethau gofal critigol mewn ardaloedd gwledig yn ychwanegol i'r Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys sydd yn bodoli'n barod - yn hytrach na gwasanaeth newydd yn ei le.

Fe ddaeth penderfyniad ddydd Mawrth diwethaf yn dilyn adolygiad gan brif gomisiynydd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, oedd â’r nod o wella’r gwasanaeth.

Roedd ei adolygiad dadleuol wedi argymell cau canolfannau Ambiwlans Awyr Caernarfon a’r Trallwng a’u huno mewn lleoliad newydd yn ardal Y Rhuddlan.

Yn ôl y Comisiynydd, Stephen Harrhy, byddai symud yr hofrenyddion i'r safle newydd yn golygu y byddai’r gwasanaeth yn gallu ymateb i 139 o alwadau ychwanegol bob blwyddyn.

Ni fydd newid i'r safleoedd presennol yn y gogledd tan 2026 ar y cynharaf.

Ac fe fydd y Gyd-bwyllgor Comisiynu'r Gwasanaeth Iechyd, sydd yn cynnwys prif swyddogion saith bwrdd iechyd Cymru fel aelodau, yn cyfarfod eto yn yr Hydref er mwyn trafod camau penodol fydd angen eu dilyn cyn i'r newid ddod i rym.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.