Perygl fod dros 260 o safleodd tirlenwi yn gollwng gwastraff i'r môr
Mae perygl y gallai dros 260 o safleoedd tirlenwi ger arfordiroedd Cymru gollwng gwastraff i’r môr, yn ôl adroddiad.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru, mae yna beryg y gallai 265 o safleoedd tirlenwi arfordirol rhyddhau gwastraff i’r môr cyfagos iddyn nhw, ac mae peryg y gallai’r sefyllfa gwaethygu yn y dyfodol.
Dywedodd yr adroddiad fod ‘na ddisgwyl i nifer y safleoedd tirlenwi oedd yn peri peryg o ran gollwng gwastraff gynyddu yn y dyfodol agos, ac yn yr hir dymor.
Aber Afon Dyfrdwy, Cilfach Tywyn, Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd sydd a’r gyfran fwyaf o safleoedd tirlenwi ger y môr, a rheiny’n peri’r bygythiad mwyaf ar gyfartaledd i’w amgylchedd lleol, medd adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru.
Ychwanegodd yr adroddiad yr oedd y safleoedd tirlenwi a oedd â risg uwch o ollwng gwastraff yn tueddu o fod mewn ardaloedd ble’r oedd fwy o beryg o lifogydd.
Roedd yr arfordiroedd rheiny hefyd yn dueddol o fod heb amddiffynfeydd, ac roedd y safleoedd tirlenwi yn fwy agored i effaith tonnau mawr.
Mae disgwyl i 306 o safleoedd tirlenwi fod yn fygythiad o ran gollwng gwastraff i’r môr yn ystod y cyfnod rhwng 2025 a 2055, meddai’r adroddiad.
Ac mae disgwyl i’r nifer hwnnw gynyddu eto i 332 o safleoedd tirlenwi arfordirol yn ystod y cyfnod rhwng 2055 a 2105.
Yn ôl yr adroddiad, aberoedd ac iselgreigiau (reefs) oedd yn cael eu heffeithio’n fwyaf gan wastraff oedd yn cael ei ollwng. Roedd ogofâu a gwastadeddau llaid (mudflats) a gwastadeddau tywod (sandflats) hefyd yn wynebu bygythiad.
Llun o draeth Abertawe (Wikipedia)