Snwcer: Y Cymro Jak Jones un gêm i ffwrdd o rownd derfynol Pencampwriaeth y Byd
Bydd y Cymro Jak Jones yn brwydro am le yn rownd derfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd dros y dyddiau nesaf.
Mae Jones, 30 oed, o Gwmbrân yn wynebu Stuart Bingham yn rownd cyn-derfynol y gystadleuaeth yn theatr y Crucible yn Sheffield.
Daw hynny wedi iddo drechu’r cyn bencampwr Judd Trump, oedd yn ail ar restr ddetholion y gystadleuaeth, o 13 ffrâm i naw.
Byddai buddugoliaeth dros Bingham yn sicrhau lle yn ffeinal y gystadleuaeth, gaiff ei chynnal dydd Sul a dydd Llun.
Fe wnaeth Bingham, o Essex, lwyddo i guro Ronnie O’Sullivan o 13 ffrâm i 10 yn eu gêm nhw yn rownd yr wyth olaf.
Llwyddodd Jones, sydd yn 44fed ar restr y byd ar hyn o bryd, i gyrraedd rownd yr wyth olaf yn y gystadleuaeth y llynedd, ond mae’r fuddugoliaeth annisgwyl dros Trump yn sicrhau ei fod wedi mynd cam ymhellach y tro hwn.
Mae’r Cymro yn cychwyn ei gêm rownd gyn-derfynol am 19.00 nos Iau, gyda’r gêm yn parhau ddydd Gwener a dydd Sadwrn.
Llun: World Snooker Tour