Newyddion S4C

Ynys Môn: Heddlu yn ymchwilio i ymosodiad honedig mewn gêm bêl-droed

01/05/2024
CPD Amlwch

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio i ymosodiad honedig mewn gêm bêl-droed ar Ynys Môn ddydd Sadwrn.

Maen nhw'n apelio am wybodaeth wedi digwyddiad mewn gêm rhwng Amlwch a Phenrhyndeudraeth.

Enillodd Penrhyndeudraeth y gêm yng Nghynghrair Uwch Gynghrair Arfordir Gorllewin Gogledd Cymru o 8-0.

Mae fideo ar y cyfryngau cymdeithasol yn ymddangos fel petai'n dangos llumanwr yn cael ei daro yn ei wyneb yn ystod y gêm.

Mae'r heddlu wedi gofyn i bobl beidio rhannu’r fideo er mwyn "osgoi unrhyw beth sy’n gallu niweidio unrhyw gamau cyfreithiol."

Dywedodd Cymdeithas Bêl-droed Arfordir Gogledd Cymru: "Rydym yn cadarnhau ein bod wedi derbyn cwyn ynglŷn â digwyddiad honedig yng Nghlwb Pêl-droed Amlwch ddydd Sadwrn 27 Ebrill. 

"Mae’r gymdeithas yn cymryd pob cwyn o ddifrif a bydd yn sicrhau bod y corff perthnasol yn ymchwilio’n llawn i’r digwyddiad. Rydym hefyd yn ymwybodol o ymchwiliad Heddlu Gogledd Cymru.

"Oherwydd hyn, ni allwn wneud sylw pellach ar fater heddlu ac ni fyddwn yn gwneud unrhyw sylw pellach ar y mater nes iddo gael ei ddatrys.”

Fe wnaeth prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Noel Mooney dweud ar X (Twitter gynt) bod "dim lle ym mhêl-droed ar gyfer digwyddiadau fel hyn."

Mae ymholiadau’r heddlu yn parhau ac maen nhw'n annog unrhyw un sydd â fideos ar eu ffonau symudol yn dangos y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy nodi’r rhif cyfeirnod 24000385680.

Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.