Perchnogion Wrecsam eisiau cael 55,000 o gefnogwyr yn y Cae Ras
Mae perchnogion Wrecsam Rob McElhenney a Ryan Reynolds eisiau cynyddu nifer y seddi yn y Cae Ras i hyd at 55,000.
Wrth siarad â gwefan Collider yn America dywedodd Mr McElhenney bod yna gynllun ar y gweill ar gyfer y stadiwm.
"Mae gennym ni gynllun ar waith ar hyn o bryd a fyddai, yn y pen draw yn gweithio ar bob un eisteddle,"meddai.
“Mae’n anodd dweud yn sicr, ond rydyn ni’n meddwl y gallem ni gael rhwng 45,000 a 55,000 o bobl i mewn yno”.
Gyda galw mawr am docynnau ar gyfer gemau, dywedodd Reynolds ei fod eisiau bod mewn sefyllfa lle “gallai’r dref gyfan ddod i’r gêm”.
Poblogaeth dinas Wrecsam ar hyn o bryd yw tua 45,000.
Mae eisteddle newydd gyda 5,500 o seddi eisoes wedi’i gynllunio ar y Cae Ras yn lleoliad yr hen Kop, sydd heb ei ddefnyddio ers 2007.
Ond ar ôl oedi cyn dechrau'r gwaith, mae eisteddle dros dro o 2,289 wedi'i godi yn lle hynny.