Newyddion S4C

'Bywyd y gymuned wedi diflannu': Grŵp yn brwydro i achub tafarn yn Sir Gaerfyrddin

01/05/2024
The Angel Inn, Salem

Mae grŵp yn ymgyrchu i achub tafarn mewn pentref yn Sir Gaerfyrddin er i'r perchennog derbyn caniatâd cynllunio i'w droi yn ddau dŷ.

Mewn llai nag wythnos mae grŵp Salem Gar wedi codi dros £20,000 mewn ymgais i brynu tafarn The Angel Inn yn Salem ger Llandeilo.

Fe wnaeth y dafarn gau yn 2021, a hynny oherwydd diffyg cwsmeriaid yn ôl y perchennog presennol, Paul James.

Dywedodd cyfarwyddwr grŵp Salem Gar, Aled Williams fod bywyd y pentref wedi diflannu ers i'r darfan gau.

"Nid ydym yn dafarnwyr, rydym yn deuluoedd prysur sy'n gweithio'n galed, grŵp o drigolion sydd ddim eisiau gweld eu tafarn lleol yn cau," meddai.

"Roedd bywyd y pentref wedi diflannu pan gaeodd yr Angel ei ddrysau, ac rydym ni eisiau'r dafarn yn ôl.

"Pan oedd yr hysbysiad cynllunio wedi ymddangos i newid y tarfan yn dai, roedd yn syndod, ac roedd hynny wedi tanio ein cymuned."

Mae Mr James wedi ceisio gwerthu'r dafarn ond ym mis Medi'r llynedd fe roddodd cais cynllunio mewn i'r cyngor i'w newid i ddau dŷ.

Cafodd ei gais ei gymeradwyo gan gynghorwyr mewn cyfarfod ar 25 Ebrill.

Ceisiodd Salem Gar annog y pwyllgor i wrthod neu ohirio'r cais.

Image
Y grwp ymgyrchu
Aelod Senedd  Canolbarth a Gorllewin Cymru Cefin Campbell, pumed o'r dde, gyda thrigolion Salem, Sir Gaerfyrddin, sydd am achub Tafarn yr Angel (llun gan Cefin Campbell)

'Dim wedi boddran i brynu diod'

Wrth siarad yn y cyfarfod dywedodd Mr James bod nifer o bobl wedi ceisio rhedeg y dafarn, ond nid oedd yn ymarferol gwneud hynny er bod y rhent yn weddol isel.

Ychwanegodd na fyddai Salem Gar yn gallu rhedeg y dafarn a honnodd eu bod nhw "ddim wedi boddran i brynu diod" pan oedd y dafarn ar agor.

Wrth ymateb dywedodd Aled Williams bod pentrefwyr yn mynd i'r dafarn yn aml, bod cinio dydd Sul yno yn boblogaidd a'u bod nhw yn cynnal nosweithiau comedi a disco.

Mae Salem Gar eisiau cymryd meddiant o'r adeilad a rhedeg siop a chaffi yn ogystal â thafarn ac mae cynnal marchnad ffermwyr yn syniad posib hefyd.

Dywedodd adroddiad y pwyllgor cynllunio fod Mr James wedi bod yn barod i werthu Tafarn yr Angel i Salem Gar ddechrau'r flwyddyn ar yr amod bod y grŵp yn sicrhau arian.

Ymgeisiodd Salem Gar am grant o £250,000 a weinyddwyd gan y cyngor ond bu'n aflwyddiannus, a thynnwyd y cynnig i werthu iddyn nhw yn ôl.

Dywedodd Mr Williams fod y grŵp yn gweithio gydag arbenigwyr busnes a thafarndai cymunedol, y byddent yn ailymgeisio am grant arall o £250,000 pan fyddai'r rownd ariannu nesaf yn agor, ac roedd hefyd yn bwriadu newid o gwmni cyfyngedig i gymdeithas budd cymunedol i agor mwy o gyfleoedd ariannu.

'Breuddwydion iwtopaidd'

Mae gan Salem tua 60 o dai ond mae tai eraill wedi eu lleoli yn yr ardal – yr hyn a ddisgrifiodd aelod Salem Gar, Kevin Nutt yn y cyfarfod cynllunio fel “cefn gwlad amaethyddol”.

Ymwelodd Cefin Campbell, AS Plaid Cymru dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru, â Salem ar 26 Ebrill a disgrifiodd y grŵp fel un oedd yn teimlo “ychydig yn grac” ond yn benderfynol o fwrw ymlaen. 

“Yr hyn rydyn ni’n ei weld yw marwolaeth araf banciau, tafarndai, ysgolion, ac mae angen i ni geisio atal y dirywiad hwn," meddai.

“Yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni mae’n annhebygol iawn ein bod ni’n mynd i gael llawer iawn o fuddsoddiad mewn ardaloedd gwledig. Hoffem weld mwy o gymunedau’n prynu tafarndai fel The Angel, yn Salem, a dyna pam rwy’n cefnogi’r grŵp.”

Yn ystod y broses cais cynllunio fe ymatebodd Mr James i bryderon ysgrifenedig gwrthwynebwyr, gan ddisgrifio cynlluniau Salem Gar ar un adeg fel “breuddwydion iwtopaidd”. 

Dywedodd ei fod wedi rhedeg rhyw chwech o dafarndai yn ei fywyd, ac nad oedd hynny i'r gwangalon. 

“Efallai y bydd gan wirfoddolwyr fwriadau da ar ddechrau rhywbeth fel hyn ond fe fyddan nhw’n cwympo wrth ymyl y ffordd wrth i amser fynd yn ei flaen,” meddai.

“Rwy’n teimlo dros drigolion Salem, ond serch hynny nid yw wedi newid fy meddwl nad yw’r dafarn yn hyfyw.” 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.