Newyddion S4C

Arestio llanc 17 oed ar amheuaeth o geisio llofruddio ar ôl i dri gael eu hanafu mewn ysgol

01/05/2024
Birley Academy

Mae llanc 17 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ar ôl i dri o bobl gael eu hanafu mewn ysgol uwchradd yn Sir Efrog.

Dywedodd Heddlu De Sir Efrog bod yr ymosodiad wedi digwydd mewn ysgolion yn The Birley Academy, Sheffield ac yn ymwneud a gwrthrych miniog.

 “Mae swyddogion yn y fan a’r lle ar ôl ymateb i adroddiadau am ddigwyddiad yn ymwneud â gwrthrych miniog yn yr ysgol ar Birley Lane tua 8.50am,” meddai llefarydd.

“Cafodd dau oedolyn eu tsecio yn y fan a’r lle ar ôl dioddef mân anafiadau.

“Cafodd plentyn hefyd ei wirio ar ôl i rywun ymosod arno.

“Mae bachgen 17 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o geisio llofruddio ac mae’n parhau yn nalfa’r heddlu.”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Gillian Keegan, ei bod yn "pryderu" o glywed am y digwyddiad yn The Birley Academy.

Mewn post ar X, Twitter gynt, dywedodd: “Rydyn ni mewn cysylltiad â’r ysgol ac mae fy meddyliau gyda’r rhai sydd wedi’u hanafu a holl gymuned yr ysgol sydd wedi’u heffeithio gan y sefyllfa frawychus hon.”

'Maint y broblem'

Daw union wythnos wedi i ferch 13 oed gael ei chyhuddo o dri achos o geisio llofruddio wedi digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin ar ddydd Mercher 24 Ebrill.

Fe wnaeth hi ymddangos o flaen Llys Ynadon Llanelli fore Gwener.

Dywedodd undebau addysg fod angen cymryd camau er mwyn sicrhau bod athrawon a disgyblion yn ddiogel yn yr ysgol yn sgil y ddau ddigwyddiad.

Dywedodd Daniel Kebede, ysgrifennydd cyffredinol yr Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU), yr undeb addysg mwyaf yn y DU: “Mae hwn yn ddigwyddiad ysgytwol arall syd wedi digwydd ar dir ysgolion.

“Does dim lle i drais yn ein hysgolion a’n colegau. Dylai pawb yn yr ysgol - staff, disgyblion, athrawon a staff cymorth - deimlo a bod yn ddiogel.

“Mae angen i’r llywodraeth gydnabod maint y broblem a mabwysiadu dull iechyd cyhoeddus o fynd i’r afael â thrais ieuenctid fel y gwnaeth yr Alban yn y 90au.

“Dylai hyn hefyd gynnwys ail-fuddsoddi brys yn y gwasanaethau ieuenctid a’r canolfannau y bu pobl ifanc yn dibynnu arnynt ar un adeg.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.