Newyddion S4C

'Angerddol': Tom Lockyer yn rhan o ymgyrch newydd i godi ymwybyddiaeth am CPR

01/05/2024
Tom Lockyer

Mae capten Luton ac amddiffynnwr Cymru, Tom Lockyer, yn rhan o ymgyrch newydd i godi ymwybyddiaeth am CPR ar ôl i’w galon stopio yng nghanol gêm y llynedd.

Nod yr ymgyrch ‘Every Minute Matters’ gan Sky Bet a Sefydliad Prydeinig y Galon yw recriwtio 270,000 o bobl i ddysgu sut i wneud CPR dros y 12 mis nesaf.

Mae Sky Bet wedi addo cyfrannu hyd at £3 miliwn i'r elusen, gan ddechrau gyda £10,000 am bob gôl sy'n cael ei sgorio yn ystod Gemau Ail-Gyfle Sky Bet.

Fe wnaeth Lockyer, 29 oed, ddioddef "ataliad ar y galon" yn y gêm yn Uwch Gynghrair Lloegr rhwng Bournemouth a Luton ar 16 Rhagfyr 2023.

Dyna’r eildro i Lockyer orfod derbyn triniaeth ar gae pêl-droed y llynedd.

Llewygodd Lockyer ar y cae wedi wyth munud o chwarae yn rownd derfynol gemau ail-gyfle y Bencampwriaeth rhwng Luton a Coventry ar 27 Mai.

Roedd wedi dioddef cyflwr o'r enw "ffibriliad atrïaidd".

‘Angerddol’

Mewn cyfweliad gyda BBC 5 Live ddydd Mercher, dywedodd Lockyer, sydd wedi ennill 16 cap dros Gymru, ei fod yn "angerddol" am yr ymgyrch.

Mae'r targed o 270,000 yn "uchelgeisiol iawn", meddai. "Ond mi ydyn ni yma i geisio gwneud y pethau yma, does dim pwynt chwarae hi yn saff a trio cael 5,000."

Dywedodd Lockyer ei fod yn gobeithio na fyddai angen i bobl ddefnyddio CPR ond y realiti yw y bydd. 

"Felly mae'n well i chi wybod be ydych chi'n neud,” meddai.

"Dw i'n teimlo yn ffodus iawn. Yn feddyliol, dw i wedi llwyddo i ddelio gyda'r sefyllfa yn reit dda. Yn amlwg mae wedi bod yn anodd, ond yn gyffredinol dw i wedi delio gyda'r peth yn reit dda. 

“Fe wnes i edrych ar y sefyllfa a dweud, reit sut alla i droi hyn o fod yn negyddol i fod yn rhywbeth positif? Ac i fi trio cael mwy o bobl i ddysgu CPR oedd hynny. 

“Pan ddaeth yr ymgyrch yma, Every Minute Matters, 270,000 o bobl - mi oedd o’n rhywbeth wnaeth fy nharo i go iawn ac yn rhywbeth oeddwn ni eisiau ymwneud ag o."

'Risg'

Ychwanegodd Lockyer: "Dw i wedi cael negeseuon gan bob math o bobl… Mae'n effeithio ar bawb. Dydy o ddim jest yn rhywbeth sydd yn ymwneud a chwaraeon.

“Dw i wedi cael negeseuon gan bobl sydd â phlant mor ifanc ag 18 mis oed sydd wedi cael ataliad y galon a rhai 85 oed ac yn hyn. Dydy o ddim yn gwahaniaethu. Fe allith o ddigwydd unrhyw le, unrhywbryd.”

Fe gadarnhaodd Lockyer, sydd bellach yn dad i ferch deufis oed, nad oedd wedi diystyru dychwelyd i chwarae.

"Dw i wedi bod yn agored os oes yna unrhyw obaith y gallen ni barhau i chwarae mi fydden ni wrth fy modd yn gwneud.

“Ond mi fydd y babi yn dod gyntaf. Os nad ydy o yn saff i fi wneud, wna i ddim cymryd y risg."

Yn ymuno â Lockyer fel rhan o'r ymgyrch mae’r cyn-chwaraewyr pêl-droed Graeme Souness, David Ginola a Glenn Hoddle. 

Mae'r pedwar yn rhan o’r ‘Re-Starting 11’, tîm un-tro sy’n cynnwys pêl-droedwyr proffesiynol a fydd yn rhannu eu straeon eu hunain.

Mae’r Re-Starting 11 hefyd yn cynnwys cefnogwyr pêl-droed sydd naill ai wedi goroesi ataliad ar y galon neu wedi achub bywyd rhywun.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.