Newyddion S4C

Honiad fod prifathro 'wedi cofleidio plentyn a phinsho ei chlun'

01/05/2024
Neil Foden

Ar wythfed diwrnod achos llys pennaeth ysgol o Hen Golwyn am droseddau rhyw honedig yn erbyn plant, clywodd y rheithgor dystiolaeth gan blentyn yn dweud fod yr athro wedi pinsho ei chlun a'i chofleidio.

Cafodd fideo o gyfweliad y plentyn - sydd yn cael ei hadnabod fel Plentyn C - gyda'r heddlu ei chwarae i'r rheithgor.

Mae Neil Foden - oedd yn bennaeth yn Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes - yn gwadu 20 o gyhuddiadau sy'n ymwneud â throseddau rhyw yn erbyn pump o blant rhwng Ionawr 2019 hyd at fis Medi 2023.

Yn ystod y cyfweliad fideo, dywedodd Plentyn C ei bod wedi dweud wrth oedolyn fod Mr Foden wedi ei chofleidio ar sawl achlysur.

"Fe wasgodd fy nghlun - ar ôl iddo wneud hynny fe ofynnodd os oeddwn i'n gyfforddus gyda hynny. Er nad oeddwn i, doeddwn i ddim am wneud hynny."

Ychwanegodd bod ei hedrychiad corfforol wedi cael ei drafod gan Mr Foden ac nad oedd hi'n deall pam fod hynny wedi digwydd.

Dywedodd Plentyn C: "Allai ddim cofio'r sgwrs yn llawn ond yr hyn dwi'n cofio ei ddweud oedd nad oeddwn i'n hoffi fy nghoesau pan oeddwn yn eistedd i lawr. Dywedais nad oeddwn yn hoffi'r ffordd yr oeddwn yn edrych a fy fod yn edrych yn dew.

"Dywedodd nad oedd yn meddwl fod unrhyw beth yn bod gyda'r ffordd yr oeddwn yn edrych.

"Fe gofleidiodd ynai, basically.

"Fe fyddai yn fy nghofleidio fel person normal ond fe fyddai hefyd yn gadael ei law ar fy nghefn a rhoi ei law y tu mewn i fy siwmper. Fe fyddai'n mynd i lawr tua'r canol neu'r gwaelod (o'i chefn)."

Ychwanegodd bod Mr Foden wedi cyffwrdd top ei sgert o dan ei dillad hefyd, ac yn cyffwrdd yn ei gwallt a'i rwbio hefyd.

Ar un achlysur fe wnaeth dau unigolyn ymddangos pan oedd yn ei chofleidio, meddai Plentyn C.

"Pan glywodd y cnocio fe adawodd fynd yn syth fel petai'n panicio," meddai.

"Pan wnaethon nhw adael fe wnaeth fy nghofleidio i eto."

Wrth gael ei chroesholi gan fargyfreithiwr yr amddiffyn, Duncan Bould, dywedodd Plentyn C ei bod wedi clywed am arestio Mr Foden ar gyfryngau cymdeithasol.

"Roeddech chi'n awyddus i fynd i'w weld mor aml â phosib," meddai Mr Bould.

"Mae hynny'n gywir," meddai Plentyn C.

"Ni wnaeth Mr Foden erioed gyffwrdd yn eich cefn chi naddo?"

"Do fe wnaeth o," meddai Plentyn C.

"Wnaeth o erioed gyffwrdd yn eich gwallt."

"Do fe wnaeth."

Ychwanegodd Mr Bould: "Doedd Mr Foden ddim yn berson oedd yn gwneud unrhywbeth annymunol i chi nag oedd?"

"Oedd, fe oedd."

Croesholi

Yn gynharach yn y diwrnod, fe gafodd achwynydd arall sydd yn cael ei hadnabod fel Plentyn B ei chroesholi gan yr amddiffyniad.

Roedd Plentyn B wedi rhoi tystiolaeth yn yr achos ddydd Mawrth ar ran yr erlyniad.

Yn ei thystiolaeth fe ddywedodd fod Neil Foden wedi bod yn gafael yn ei dwylo yn aml, wedi rhoi ei ddwylo ar ei choesau a holi am ei bywyd rhywiol.

Gofynnodd Duncan Bould, wrth y plentyn os oedd hi'n ymwybodol fod trafodaeth o'r sefyllfa'n cylchdroi ar gyfryngau cymdeithasol wedi i'r athro gael ei arestio.

Dywedodd Plentyn B nad oedd hi'n ymwybodol o hynny.

Gofynnodd Mr Bould os oedd yr achwynydd wedi ailasesu'r sefyllfa yn ymwneud â'i phrofiad wrth edrych yn ôl dros amser?

Dywedodd Plentyn B mai nid dyna'r achos.

Wrth droi at ei honiadau yn erbyn Mr Foden, gofynnodd yr amddiffyniad pan nad oedd hi wedi codi ei phryderon am yr hyn oedd wedi digwydd ar y pryd?

"Achos ar y pryd roedd yn un ffactor fach allan o nifer o ffactorau eraill yn fy mywyd."

Ychwanegodd ei bod yn delio gyda thrawma a bod y mater dan sylw yn un ymylol o edrych ar y darlun llawn.

"Pan roddodd ei freichiau o'ch hamgylch a gafael ynddo chi, ymgais i gysuro oedd o?"

"Ia," meddai Plentyn B.

"Wnaeth o afael yn eich llaw pan oeddech chi'n bryderus o dro i dro?"

"Do."

"Ag oedd o'n rhoi ei ddwylo ar eich coesau?"

"Rwy'n credu fy mod wedi dweud fod ei ddwylo'n agos iawn at fy organnau rhywiol," meddai Plentyn B.

"Ond wnaethoch chi ddim codi eich llais ar y pryd."

Dywedodd Person B ei bod wedi croesi ei choesau a dod â'r cyffyrddiad i ben. 

Dywedodd nad oedd wedi cwyno ar y pryd gan nad oedd hi "ddim yn gwybod beth i'w wneud".

Mae'r achos yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.