Newyddion S4C

Arestio protestwyr Palestina ym Mhrifysgol Columbia

01/05/2024
NYPD ym Mhrifysgol Columbia

Mae’r heddlu wedi arestio protestwyr sydd yn cefnogi Palestina ar gampws prifysgol flaenllaw yn Efrog Newydd.

Mae tua 30 i 40 o bobol wedi cael eu symud o adeilad Neuadd Hamilton ym Mhrifysgol Columbia, yn ôl yr heddlu.

Daeth y cyrch oriau ar ôl i Faer Dinas Efrog Newydd, Eric Adams, ddweud bod yn rhaid i’r brotest “ddod i ben nawr”.

Yn ôl Mr Adams, roedd y brotest wedi'i ymdreiddio gan "gynhyrfwyr allanol proffesiynol".

Dywedodd penaethiaid y brifysgol eu bod wedi galw Adran Heddlu Efrog Newydd (NYPD) ar ôl i brotestwyr “ddewis gwaethygu’r sefyllfa trwy eu gweithredoedd”.

"Ar ôl i’r brifysgol ddod i wybod fod Neuadd Hamilton wedi cael ei meddiannu, ei fandaleiddio, a’i rhwystro dros nos, doedd dim dewis gennym ni,” meddai llefarydd ar ran Prifysgol Columbia mewn datganiad.

“Roedd y penderfyniad i estyn allan i’r NYPD mewn ymateb i weithredoedd y protestwyr, nid yr achos maen nhw’n ei hyrwyddo.

“Rydyn ni wedi ei gwneud yn glir na all protestwyr sy’n torri’r rheolau a’r gyfraith ymyrryd yn ddiddiwedd â bywyd y campws.”

Dechreuodd y brotest ddydd Mawrth pan wnaeth myfyrwyr faricêd wrth fynedfa Neuadd Hamilton a dadorchuddio baner Palestina allan o'r ffenest.

Roedd lluniau yn dangos protestwyr yn clymu breichiau o flaen y neuadd ac yn cario dodrefn a rhwystrau eraill i'r adeilad.

Ers i'r rhyfel Israel-Gaza ddechrau ar 7 Hydref, mae myfyrwyr wedi cynnal bob math o brotestiadau, gan gynnwys ralïau a streiciau newyn.

Mae'r myfyrwyr yn galw ar eu prifysgolion i roi'r gorau i gefnogi Israel yn ariannol.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.