Cyhuddo Matt Hancock o ddefnyddio e-bost personol yn y gwaith

Matt Hancock
Mae cyn-Weinidog Iechyd y Deyrnas Unedig, Matt Hancock, wedi ei gyhuddo o ddefnyddio cyfrif e-bost personol yn y gweithle.
Dywed Golwg360 fod yn rhaid i weinidogion ddefnyddio cyfeiriad e-bost gwaith ar bob cyfrif.
Y gred yw bod Mr Hancock wedi defnyddio cyfeiriad Gmail personol ers mis Mawrth 2020 ac felly y gallai hi fod yn anodd sicrhau cofnodion swyddogol am benderfyniadau'r llywodraeth yn ystod y pandemig.
Daw'r adroddiadau ddiwrnod wedi i Mr Hancock ymddiswyddo ar ôl iddo gael ei ddal yn torri rheolau Covid-19 wrth gusanu cyd-weithwraig.
Darllenwch y stori'n llawn yma.