Newyddion S4C

Vaughan Gething i ymweld ag India er mwyn ceisio annog Tata i ail ystyried

30/04/2024
Tata_Steel_Phil_Beard

Bydd Prif Weinidog Cymru yn ymweld ag India yr wythnos nesa er mwyn ceisio rhoi pwysau ar gwmni dur Tata i ail edrych ar eu cynllun i gau ffwrneisi chwyth a allai arwain at filoedd o ddiswyddiadau yn ne Cymru. 

Yr wythnos ddiwethaf, cadarnhaodd Tata Steel y byddan nhw yn diffodd eu ffwrneisi ar ôl gwrthod apêl funud olaf gan yr undebau i ail ystyried. 

Cyhoeddodd Vaughan Gething brynhawn Mawrth ei fwriad i ymweld â Mumbai er mwyn gofyn i'r cwmni ail ystyried eu cynlluniau ar gyfer cynhyrchu dur yng Nghymru yn y dyfodol. 

Wedi trafodaethau dros gyfnod o saith mis gyda'r undebau, datgelodd Tata ddydd Iau y byddan nhw yn bwrw ymlaen â'u buddsoddiad gwerth £1.25 biliwn o bunnau er mwyn gosod ffwrnais drydan ar safle gwaith dur Port Talbot. 

Bydd un ffwrnais chwyth yn cau erbyn diwedd Mehefin a'r llall yn cael ei diffodd ddiwedd Medi.

Mae'n debygol y bydd hynny'n arwain at golli 2,800 o swyddi, a'r mwyafrif ohonyn nhw ym Mhort Talbot. 

Tra'n siarad yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Mr Gething: “Yr wythnos nesaf, rwy'n bwriadu ymweld â Mumbai i gwrdd â Tata a'u hannog i edrych eto ar y cyfleoedd i gynhyrchu dur yng Nghymru. ”

Dywedodd prif weithredwr Tata Steel T V Narendran yr wythnos ddiwethaf mai cynlluniau'r cwmni yw'r rhai mwyaf "ymarferol" er mwyn sicrhau dyfodol hir dymor y busnes.  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.