Mesurau stelcian newydd 'yn rhoi cryfder i ddioddefwyr'

Mae mesurau newydd sy’n rhoi mwy o bŵer i’r heddlu fynd i’r afael â stelcian “yn rhoi cryfder i ddioddefwyr," meddai menyw sydd wedi dioddef achosion difrifol o stelcian yn y gorffennol.
Daeth pwerau newydd i rym ar 22 Ebrill, gyda’r gobaith y bydd modd i’r heddlu ddod o hyd i achosion o stelcian yn gynt.
Mae trothwy’r dystiolaeth sydd ei angen ar gyfer gwneud cais i warchod dioddefwr wedi cael ei leihau sy’n ei gwneud yn haws i brofi bod rhywun yn wynebu risg o stelcian.
Gobaith Sara Manchipp yw y byddai'r pwerau newydd yn rhoi mwy o hyder i bobl gamu ymlaen a siarad gyda'r heddlu.
Fe wnaeth hi dderbyn cyfres o negeseuon a bygythiadau personol dros gyfnod hir. Cafodd dyn ddedfryd o flwyddyn a hanner yn y carchar oherwydd hynny.
"Dwi’n gobeithio bydd y pwerau newydd yn dangos i ddioddefwyr fydd y stelcwyr ddim yn ennill," meddai.
“Ro’n i’n amheus o bawb ar y pryd. Fe gafodd e effaith fawr ar fy mywyd i.
“Ro’n i’n lwcus i gael profiad da gyda’r heddlu, ond dwi’n gwybod ei bod hi ddim yr un peth i bawb.
“Dwi’n gobeithio fydd y newidiadau hyn yn golygu bydd gan ddioddefwyr fwy o hyder i gamu ymlaen os ydyn nhw’n cael eu targedu."
'Pethau wedi newid'
Mae gorchmynion gwarchod rhag stelcian wedi bodoli ers Ionawr 2020.
Yn ôl Ymddiriedolaeth Suzy Lamplugh mae 12 o’r 43 o luoedd yr heddlu yng Nghymru a Lloegr wedi rhoi 10 neu lai o’r gorchmynion yma mewn blwyddyn.
Helpu dioddefwyr stelcian mae'r ymddiriedolaeth.
Er mwyn gwarchod dioddefwyr, os yw rhywun yn derbyn y gorchymyn stelcio, mae’n rhaid iddyn nhw rannu eu lleoliad gyda’r heddlu ac osgoi mannau penodol.
Wrth dorri’r gorchymyn, gall troseddwr wynebu pum mlynedd yn y carchar.
Mae achosion o stelcian, ac yn arbennig seibr-stelcian ar gynnydd, gydag 20% yn fwy o alwadau wedi cael eu gwneud i’r Llinell Gymorth Stelcian yn 2023 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Fodd bynnag, y gyfradd o bobl wnaeth gael eu dyfarnu’n euog o stelcio oedd 1.7%, yn ôl ffigyrau’r ymddiriedolaeth.
Dywedodd Sara: “Dwi’n falch iawn bod mwy o bwerau gyda’r heddlu.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud esiampl o bobl sydd yn dychryn ac yn codi ofn drwy stelcian.
“Mae’n rhaid i ddioddefwyr wybod bod pethau wedi newid ac mae’n llawer mwy tebygol nawr y bydd stelcwyr yn cael eu dal.”
Hyfforddiant yn 'hanfodol'
Yn ôl elusen Cymorth i Fenywod Cymru, mae'n hollbwysig bod swyddogion yr heddlu yn derbyn hyfforddiant i sicrhau bod y broses mor hawdd â phosibl i ddioddefwyr.
“Mae gan bawb yr hawl i fyw eu bywydau heb ofn aflonyddu. Mae effaith stelcian ar les meddyliol, emosiynol a chorfforol unigolyn yn gallu bod yn ddinistriol.
“Er bod y cynnydd mewn ffyrdd i warchod dioddefwyr stelcian ac aflonyddu - sydd wedi cael eu cyhoeddi - yn rhoi mwy o gyfle i amddiffyn, mae mesurau’r gorffennol wedi cael eu tanddefnyddio’n ddirfawr. Mae hyn yn gadael dioddefwyr heb yr amddiffyniad sydd wedi cael ei gynnig gan y gyfraith."
Ychwanegodd yr elusen ei bod hi'n "hanfodol" bod y mesurau newydd yn cael eu defnyddio gan yr heddlu a hyfforddiant yn cael ei rhoi iddynt ac i weithwyr cyfreithiol proffesiynol.