Plant dal yn llwglyd ar ôl cinio ysgol yn peri pryder
Plant dal yn llwglyd ar ôl cinio ysgol yn peri pryder
Cinio ysgol, cyfle i gael saib o'r gwersi, cael sgwrs gyda ffrindiau a llenwi boliau. Nid pob pryd sydd at ddant pawb ond oes 'na ddigon?
"I fi yn bersonol, ydy. Dydw i ddim yn bwyta llawer ond mae pobl eraill yn bwyta mwy."
"Mae cinio rhost heddi a digon o fwyd. Weithiau ni'n cael wedges a cig a 'sdim digon i fi achos fi'n bwyta lot."
"Dw i'n picky, sa i'n hoffi rhai stwff mae pobl eraill yn hoffi."
"O'n i ddim yn hoffi trays a cael popeth yr un pryd. Mae Miss wedi sicrhau bod ni'n cael cyllell a fforc a plât bob dydd."
Mae mwy o blant yn cael cinio ysgol ers cyflwyno'r cynnig o brydau am ddim i ddisgyblion cynradd. Ond yn ôl Swyddfa'r Comisiynydd Plant y neges maen nhw'n ei gael gan blant ar draws Cymru yw bod rhai dal yn llwglyd ar ôl eu pryd a'u pryder yw y gallai hynny olygu bod llai o rieni yn dewis prydau ysgol i'w plant.
"Y neges mwya clir gan blant yw bod maint y pryd ddim yn ddigonol. Mae lot o athrawon yn son am y plant hŷn yn derbyn yr un maint pryd a'r plant iau.
"O fewn y cyd-destun cymdeithasol, mae lot o deuluoedd yn stryglo rhoi bwyd ar y ford. Mae'n sefyll mas fel neges bwysig i blant."
Mae'r Comisiynydd Plant yn dweud bod angen ail-edrych ar y canllawiau i ysgolion a chynghorau. Ym Mro Pedr, maen nhw'n pwysleisio pa mor bwysig yw cael staff cegin sy'n nabod y plant yn dda.
"Mae'r plantos bach ddim yn bwyta cymaint â disgyblion hŷn. Mae'r gegin yn ymwybodol o pwy sy'n hoffi eu bwyd. Maen nhw'n ymwybodol o'r plant 'ma.
"Ni yn ffodus o ran hynny. Mae tipyn o wastraff ambell waith. Mae hwnna'n rhywbeth ni'n edrych arno."
Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar brydiau ysgol ar hyn o bryd yn rhoi gwybodaeth yn awgrymu faint o fwyd dylai disgyblion ysgol gynradd gael i'w gymharu a disgyblion ysgol uwchradd.
Mae'r Llywodraeth yn dweud y bydden nhw'n adolygu'r canllawiau. Bydd hynny'n cynnwys cael barn plant a rhieni ac edrych ar yr argymhellion diweddaraf ar faeth plant gan gynnwys faint o fwyd ddylen nhw fod yn cael.
Yma maen nhw'n fodlon gyda'u cinio ysgol. Nawr mae'r Comisiynydd Plant am weld trafodaeth ehangach am yr arlwy ar draws Cymru.