Treialon newydd canser y prostad yn 'foment allweddol'
Mae treialon newydd i sgrinio dynion ar gyfer canser y prostad wedi cael eu disgrifio fel "moment allweddol" all arwain at achub bywydau miloedd o bobl bob blwyddyn.
Yn ôl arbenigwyr, mae prosiect Transform, sydd yn werth £42 miliwn yn "hollbwysig yn hanes ymchwil canser y prostad."
Bydd y treialon yn cymharu gwahanol ddulliau sgrinio â phrosesau diagnostig presennol y Gwasanaeth Iechyd – a all gynnwys profion gwaed, archwiliadau corfforol a biopsïau.
Y gobaith hefyd yw y bydd yr ymchwil yn helpu dynion i osgoi niwed yn sgil biopsïau a thriniaeth ddiangen.
Ar hyn o bryd nid oes rhaglen sgrinio ar gyfer canser y prostad yn y DU.
Mae disgwyl i ganlyniadau cychwynnol Transform cael eu cyhoeddi mewn tair blynedd.
'Achub bywydau'
Prostate Cancer UK sy’n ariannu’r prosiect. Maen nhw'n dweud fod treialon blaenorol a ddefnyddiodd brofion gwaed antigen penodol i’r prostad (PSA) a biopsïau i sgrinio am y clefyd, wedi atal rhwng 8% ac 20% o farwolaethau.
Fodd bynnag, mae gan Transform y potensial i sicrhau gostyngiad o 40% yn nifer y marwolaethau o ganser y brostad, meddai’r elusen.
Mae ffigurau gan Cancer Research UK yn amcangyfrif bod 12,000 o ddynion yn marw oherwydd canser y prostad yn y DU bob blwyddyn.
Dywedodd Dr Matthew Hobbs, Cyfarwyddwr Ymchwil yn Prostate Cancer UK bod angen darganfod ffyrdd gwell o ddod o hyd i'r math hwn o ganser.
“Canser y prostad yw’r canser mwyaf cyffredin heb raglen sgrinio ac mae’n hen bryd i ni newid hynny," meddai.
“Rydyn ni’n gwybod bod diagnosis cynharach yn achub bywydau. Ond nid yw treialon blaenorol wedi gallu profi y byddai digon o ddynion yn cael eu hachub gan ddefnyddio profion PSA yn unig, tra eu bod wedi dangos bod yr hen ddulliau sgrinio hyn wedi achosi niwed diangen sylweddol i ddynion.
“Rhaid i ni nawr brofi bod yna ffyrdd gwell o ddod o hyd i ganser y prostad a fydd yn arbed hyd yn oed mwy o fywydau tra’n achosi llai o niwed.”
'Newid arferion yn fyd-eang'
Bydd cam cyntaf Transform yn cynnwys tua 12,500 o ddynion. Bydd yn asesu profion gwaed PSA, profion genetig a fersiwn cyflymach o'r sgan MRI yn erbyn dulliau diagnostig presennol y Gwasanaeth Iechyd i weld pa un sy'n perfformio orau.
Bydd ail gam y prawf, sy'n cynnwys hyd at 300,000 o ddynion, yn profi'r opsiynau mwyaf addawol o gam un y prawf.
Bydd y tîm yn cadw mewn cysylltiad gyda chleifion dros o leiaf ddegawd i olrhain sut mae sgrinio wedi effeithio ar hyd ac ansawdd eu bywydau.
Yn ogystal ag achub bywydau yn y DU, dywedodd Dr Hobbs y gallai’r treialon hefyd “newid arferion yn fyd-eang”, gyda nifer y bywydau sy'n cael eu hachub o bosibl yn cyrraedd degau ar filoedd bob blwyddyn.