Newyddion S4C

Bachgen 14 oed wedi marw ar ôl cael ei drywanu yn Llundain

30/04/2024
Ymosodiad Hainault / @ell_pht

Mae bachgen 14 oed wedi marw ar ôl cael ei drywanu yn nwyrain Llundain fore Mawrth.

Cyhoeddodd Heddlu'r Met fod pedwar arall wedi eu hanafu, gan nodi eu bod yn cael triniaeth mewn ysbyty, ond nad yw eu bywyd mewn perygl.   

Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Stuart Bell: "Fe gafodd y bachgen ei gludo i'r ysbyty ar ôl cael ei drywanu ac yn drist iawn, bu farw ychydig yn ddiweddarach."

Mae dyn 36 oed a gafodd ei weld gyda chleddyf yn ei law wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth. 

Defnyddiodd plismyn ddull taser i'w atal. 

Mae'r dyn yn cael triniaeth mewn ysbyty ac oherwydd natur ei anafiadau, nid yw'r heddlu wedi medru ei holi eto.    

Mae dau o'r pedwar a gafodd eu hanafu yn blismyn gyda Heddlu'r Met. 

Anafiadau sylweddol 

Yn ôl yr heddlu, mae nhw wedi cael anafiadau "sylweddol" ond dyw eu bywydau ddim mewn perygl.

Mae'r ddau aelod o'r cyhoedd yn cael triniaeth, ond nid yw eu hanafiadau yn peryglu eu bywyd. 

Mewn datganiad newyddion amser cinio, dywedodd y Prif Uwcharolygydd Bell nad oedd yn credu bod y dioddefwyr wedi eu targedu ac nad oedd o'r farn fod cyswllt â therfysgaeth.  

Mae teulu'r bachgen a fu farw bellach yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.       

Dywedodd y llu fod swyddogion wedi cael eu galw yn sgil adroddiadau am gerbyd yn cael ei yrru i mewn i dŷ yn ardal Hainault yn Llundain am tua 7.00 fore Mawrth. 

Daeth adroddiadau wedi hynny am bobl yn cael eu trywanu yn ardal Thurlow Gardens. 

Dywedodd yr heddlu mai'r gred oedd fod dyn wedi mynd ymlaen i ymosod ar aelodau eraill o'r cyhoedd a dau blismon. 

Yn ôl Heddlu'r Met, nid ydynt yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

'Ofnadwy'

Dywedodd y Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol Ade Adelekan: "Mae'n rhaid bod hwn wedi bod yn ddigwyddiad dychrynllyd i'r rhai dan sylw. 

"Dwi'n gwybod y bydd y gymuned ehangach mewn sioc. 

"Fe fydd pobl eisiau gwybod beth sydd wedi digwydd, ac fe fyddwn yn darparu rhagor o wybodaeth cyn gynted â bo modd."

Fe gadarnhaodd gwefan Transport for London fod gorsaf Hainault wedi ei chau "yn sgil ymchwiliad heddlu yn yr ardal".

Mae'r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi disgrifio'r digwyddiad fel un "ofnadwy" gan ychwanegu "nad oes yna unrhyw le i drais o'r fath ar ein strydoedd."

Llun: @ell_pht

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.