Newyddion S4C

Arestio dyn gyda chleddyf ar ôl ymosodiad yn Llundain

30/04/2024
Ymosodiad Hainault / @ell_pht

Mae dyn gyda chleddyf wedi cael ei arestio yn dilyn adroddiadau o drywanu ac ymosodiadau yn Llundain. 

Dywedodd Heddlu'r Met fod swyddogion wedi cael eu galw wedi adroddiadau o gerbyd yn cael ei yrru mewn i dŷ yn ardal Hainault yn y brifddinas am tua 7.00 fore Mawrth. 

Ychwanegodd y llu fod yna adroddiadau o bobl yn cael eu trywanu yn y digwyddiad yn ardal Thurlow Gardens. 

Dywedodd yr heddlu mai'r gred oedd fod unigolyn wedi mynd ymlaen i ymosod ar aelodau eraill o'r cyhoedd a dau heddwas. 

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Llundain fod pump o bobl wedi eu cludo i'r ysbyty yn dilyn yr ymosodiad yn nwyrain Llundain.

Fe gafodd dyn 36 oed ei arestio yn y fan a'r lle ac mae bellach yn y ddalfa. 

Yn ôl Heddlu'r Met, nid ydynt yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad, a'r gred yw nad yw'n ymwneud â therfysgaeth.

'Ofnadwy'

Dywedodd y Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol Ade Adelekan: "Mae'n rhaid bod hwn wedi bod yn ddigwyddiad dychrynllyd i'r rhai dan sylw. 

"Dwi'n gwybod y bydd y gymuned ehangach mewn sioc. 

"Fe fydd pobl eisiau gwybod beth sydd wedi digwydd, ac fe fyddwn yn darparu rhagor o wybodaeth cyn gynted â bo modd."

Mae'r heddlu yn disgwyl diweddariad am gyflwr y rhai a gafodd eu hanafu yn yr ymosodiad. 

Fe gadarnhaodd gwefan Transport for London fod gorsaf Hainault wedi ei chau "yn sgil ymchwiliad heddlu yn yr ardal".

Mae'r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi disgrifio'r digwyddiad fel un "ofnadwy" gan ychwanegu "nad oes yna unrhyw le i drais o'r fath ar ein strydoedd."

Llun: @ell_pht

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.