Gwahardd dau gyn-swyddog Heddlu’r Gogledd am sylwadau 'brawychus'
Mae dau o gyn-swyddogion Heddlu’r Gogledd wedi cael eu gwahardd rhag dychwelyd i’r llu wedi iddyn nhw wneud sylwadau “creulon, brawychus a sarhaus.”
Byddai’r cyn-swyddogion Iwan Williams a Terence Flanagan wedi cael eu diswyddo pe na bai nhw wedi ymddeol cyn gwrandawiad a gafodd ei gynnal ym mhencadlys yr heddlu ym Mae Colwyn ddydd Llun, meddai'r llu.
Clywodd y gwrandawiad fod y pâr wedi ymddwyn mewn modd oedd yn groes i safonau ymddygiad swyddogol yr heddlu.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman KPM a gadeiriodd y gwrandawiad, fod ymddygiad Mr Williams a Mr Flanagan yn “hollol annerbyniol,” gan ychwanegu nad oedd yna “unrhyw le” am ymddygiad o’r fath yn y llu.
'Newid diwylliant'
Cyfeiriodd y Prif Gwnstabl Blakeman at sylwadau “misogynistaidd, gwahaniaethol,” a “rhywiaethol” gan ddweud na fyddai’n cael ei “oddef mewn gwasanaeth modern.”
Mi oedd hi hefyd yn cyfeirio at un sgwrs yn benodol a ddigwyddodd rhwng swyddogion Heddlu Gogledd Cymru ynglŷn â dioddefwr cam-drin domestig a chydweithwyr.
“Mae nifer o aelodau’r cyhoedd yn teimlo fel ydw i; bod trafodaeth rhwng swyddogion am ddioddefwr cam-drin domestig a chydweithwyr yn annerbyniol – ac yn bendant ddim y math o ymddygiad rydym yn disgwyl gan swyddogion yr heddlu," meddai.
“Mae gan y cyhoedd hawl i ddisgwyl bod swyddogion a staff HGC yn gweithredu i’r safon uchaf bosib o ymddygiad proffesiynol. Dydi’r ffaith bod y sgwrs yma wedi digwydd i ffwrdd o olwg y cyhoedd ddim yn lleihau’r effaith a’r niwed mae wedi achosi,” meddai.
Dywedodd hefyd ei bod wedi bod “yn glir” ei bod wedi ymrwymo i “newid ein diwylliant” gan fynd i’r afael a thrais yn erbyn merched a menywod.