Newyddion S4C

Pryderon am 100 o swyddi yn y Rhondda wrth i gwmni Everest fynd i ddwylo’r gweinyddwyr

30/04/2024
Ffatri Everest Treherbert

Mae pryderon am ddyfodol 100 o swyddi yn y Rhondda wedi i gwmni ffenestri Everest fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Fe aeth y cwmni, sydd â ffatri yn Nhreherbert a swyddfa yn Llantrisant, i ddwylo’r gweinyddwyr yr wythnos diwethaf.

Fe allai'r safleloedd gau wedi i ddau ddarpar brynwr dynnu allan o brynu'r cwmni.

Mae Syr Chris Bryant, yr Aelod Seneddol dros y Rhondda, wedi dweud ei fod yn "newyddion ofnadwy", gan gynnig "cefnogaeth mewn unrhyw ffordd y gallaf."

Mewn datganiad ar wefan Everest, daeth cadarnhad bod y cwmni ReSolve wedi ei benodi ddydd Gwener er mwyn gweinyddu’r busnes a cheisio canfod prynwr i’r busnes cyfan neu rannau ohono.

Yn y datganiad, dywedodd llefarydd ar ran y cwmni: “Penodwyd Chris Farrington, Cameron Gunn a Lee Manning o ReSolve Advisory Limited yn Gyd-weinyddwyr Everest 2020 Limited (“Everest”) ar 24 Ebrill 2024.

“Mae Chris, Cameron a Lee wedi’u trwyddedu i weithredu fel Ymarferwyr Ansolfedd yn y Deyrnas Unedig gan Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr ac, ynghyd â’u staff, yn gweithredu heb atebolrwydd personol bob amser.

“Mae Ymarferwyr Ansolfedd Trwyddedig sy’n cael eu penodi’n Weinyddwyr, a’u staff, yn gweithredu fel asiantau i’r cwmni y maent wedi’u penodi drosto.”

‘Newyddion ofnadwy’

Mae'r ffatri yn Nhreherbert, sydd yn cynhyrchu drysau a ffenestri, yn cyflogi 96 o bobl, tra bod saith aelod o staff yn gweithio yn y swyddfa yn Llantrisant.

Wrth ymateb i’r newyddion ar gyfrwng cymdeithasol X, dywedodd Chris Bryant AS: “Newyddion ofnadwy am 100 o swyddi yn Everest 2020 yn Nhreherbert.

“Mae wedi bod yn nwylo’r gweinyddwyr ers yr wythnos diwethaf ac rwy’n deall mae’r unig gais hyd yma yn ymwneud ag asedau, yn hytrach na pharhau â’r busnes fel ag y mae.

“Rydw i wedi cynnig cefnogi mewn unrhyw ffordd y gallaf."

Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ymateb gan Everest a ReSolve.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.