Y clarinetydd o Lanelli Wyn Lodwick wedi marw’n 97 oed
Y clarinetydd o Lanelli Wyn Lodwick wedi marw’n 97 oed
Mae’r cerddor jazz o Lanelli, Wyn Lodwick wedi marw’n 97 oed.
Ag yntau’n cael ei adnabod fel y ‘y dyn jazz ’, fe deithiodd y clarinetydd adnabyddus ledled y byd yn perfformio.
Yn ystod ei yrfa faith, perfformiodd gyda rhai o gewri’r byd jazz fel Louis Armstrong a Count Basie.
Cafodd Wyn Lodwick ei urddo i’r Orsedd yn 2016 am ei gyfraniad i’r byd cerddoriaeth jazz yng Nghymru a thu hwnt, a’i enw yng Ngorsedd y Beirdd oedd Pibydd Harlem.
Pan sefydlwyd S4C yn 1982, roedd Wyn Lodwick yn wyneb cyfarwydd ar y sianel, yn chwarae'r clarinet gyda'i fand jazz yn ystod y rhaglen Y Byd yn Ei Le, a oedd yn cael ei chyflwyno gan y diweddar Vaughan Hughes.
Wrth roi teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y newyddiadurwr Wyn Thomas: "Ein bwriad oedd i gynhyrchu rhaglenni trafod materion cyfoes gydag elfen ysgafn boblogaidd iddynt. Roedd cyfraniad Wyn a'r band yn rhan o gyfrinach poblogrwydd y rhaglenni.
"Diolch Wyn a chwsg yn dawel."
Mewn neges ar gyfrwng cymdeithasol X, Twitter gynt, dywedodd y cerddor jazz o’r band Burum a’r cyflwynydd rhaglenni jazz Tomos Williams: "Trist iawn clywed bod Wyn Lodwick wedi’n gadael ni.
"Trysor Cenedlaethol llawn storiâu a profiadau anhygoel."
Inline Tweet: https://twitter.com/TwmWillias/status/1784973539847651527