'Wnes i fyth feddwl y byddwn i'n cael trafferth cael plant', medd seren Love Island
Mae’r seren Love Island o Gymru, Connagh Howard, wedi trafod y profiad o gael triniaeth IVF gyda’i bartner er mwyn beichiogi.
Yn gynharach fis Ebrill, fe wnaeth Connagh, o Gaerdydd, a’i bartner Beth Dunlavey gyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol eu bod yn disgwyl eu plentyn cyntaf, ar ôl dwy rownd o driniaeth IVF.
Wrth siarad fel rhan o ymgyrch Sound, sydd â’r nod o ddod â thrais yn erbyn menywod i ben, ymwelodd Connagh Howard â’i hen ysgol, Ysgol Gyfun Glantaf.
Roedd o yno er mwyn trafod perthnasoedd iach ac agweddau negyddol tuag at fenywod.
Yn ystod y cyfweliad, rhannodd y seren o Love Island ei feddyliau am y stigma sy’n bodoli ynghylch anffrwythlondeb mewn dynion.
Fe soniodd am sut yr oedd yn teimlo “cywilydd” pan nad oedd e a’i bartner yn gallu cael plentyn.
Yn ôl Connagh, a wnaeth ymddangos yng nghyfres chwech Love Island, mae angen normaleiddio pynciau fel anffrwythlondeb a siarad amdanynt yn amlach ymhlith dynion.
Unig
Dywedodd: “Wnes i erioed feddwl y byddwn i’n cael trafferth cael plant, roeddwn i’n meddwl y basai jest yn digwydd, ond mae’n gyffredin felly gorau po fwyaf y gallwch chi siarad amdano oherwydd mae’n syndod faint o bobl sy’n mynd drwyddo.
“Roedd yn anodd iawn weithiau. Gelli di weld sut y gall y sefyllfa fel hyn chwalu cwpl os nad ydych chi'n cefnogi'ch gilydd.
“Gall fod yn unig iawn, ond mae wedi dod â ni’n agosach. Roedd yna heriau a dadlau ond, yn y diwedd, chi'n sylweddoli bod y ddau ohonoch chi eisiau'r peth hyn i weithio gymaint, sydd yn y pen draw yn dod â chi'n agosach at eich gilydd."