Newyddion S4C

Cau ysgol leiaf Rhondda Cynon Taf er gwaethaf gwrthwynebiad lleol

29/04/2024
Ysgol Gynradd Rhigos

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi pleidleisio o blaid cau ysgol gynradd leiaf y sir, er gwaethaf gwrthwynebiad lleol.

Roedd bron i 1,500 o bobl leol wedi gwrthwynebu’r cynlluniau i gau Ysgol Gynradd Rhigos yn swyddogol, gyda channoedd eraill wedi protestio yn ystod y misoedd diwethaf. 

Mae Ysgol Gynradd Rhigos yn ysgol cyfrwng Saesneg ac mae disgwyl i ddisgyblion yr ysgol bellach symud i Ysgol Gynradd Hirwaun neu Ysgol Gynradd Penderyn – sef ysgol Gymraeg – cyn diwedd mis Medi eleni. 

Ond mae’r Aelod Seneddol Llafur dros Gwm Gynon, Beth Winter, wedi rhybuddio na fydd cau’r ysgol yn annog mwy o siaradwyr Cymraeg yn yr ardal, oherwydd "effaith negyddol" cau Ysgol Gynradd Rhigos  

Wrth siarad â Newyddion S4C ddiwedd mis Hydref, dywedodd Ms Winter na fyddai cau’r ysgol yn “’neud unrhyw beth da i’r iaith Gymraeg” oherwydd yr effaith dinistriol ar y gymuned. 

Mewn neges fideo ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Sul, dywedodd Ms Winter iddi gael gwrthod siarad ar ran trigolion lleol yng nghyfarfod cabinet pwyllgor Cyngor Rhondda Cynon Taf ddydd Llun.

“Mae fy nghais wedi cael ei wrthod gan Gyngor Rhondda Cynon Taf sydd yn atal fi rhag mynegi barn y trigolion yr wyf wedi fy ethol i'w cynrychioli. 

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf: "Cafodd pob cais ar gyfer siaradwr cyhoeddus ei gyflwyno yn ystod y cyfarfod cabinet. Does ‘na ddim trefniadau arbennig sy’n galluogi Aelod Seneddol i siarad â’r cabinet, a hynny am y rheswm penodol fod ‘na lawer o gyfleoedd eraill ar gael iddyn nhw gyflwyno eu safbwyntiau a’u barn.

“Yn benodol, mae ‘na gyfleodd i siarad yn uniongyrchol ag Arweinydd y Cyngor neu Aelodau’r Cabinet dros y ffôn neu’n bersonol, naill ai’n ffurfiol neu’n anffurfiol.”

Prif resymau Cyngor Rhondda Cynon Taf dros y cynllun i gau’r ysgol yw'r darogan y byddai nifer disgyblion yr ysgol yn parhau i ostwng, yn ogystal â rhestr o waith cynnal a chadw ar adeilad yr ysgol a fydd yn costio oddeutu £184, 790. 

Dywedodd y llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf y byddai unrhyw arbedion a ddaw yn sgil cau'r ysgol yn cael eu "hail-fuddsoddi i gefnogi addysg yn Rhondda Cynon Taf ar adeg o galedi ariannol sylweddol."

Mewn neges ar y cyd ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Llun, dywedodd y cynghorwyr lleol Adam Owain Rogers a Karen Morgan sy’n cynrychioli Rhigos, Penderyn a Hirwaun ar ran Plaid Cymru, ei fod yn “ddiwrnod trist” i’r gymuned.

Dywedodd: “Er gwaethaf ein holl ymdrechion i geisio cadw’r ysgol ragorol yma ar agor, penderfynodd cynghorwyr Llafur i gau ein hysgol fach wledig. 

“Doedd ganddyn nhw ddim diddordeb mewn ymgysylltu â’r gymuned a gwrando ar bryderon,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.