Newyddion S4C

Plentyn 'wedi defnyddio cerdyn banc' yn yr un gwestai â phrifathro ysgolion yng Ngwynedd

29/04/2024

Plentyn 'wedi defnyddio cerdyn banc' yn yr un gwestai â phrifathro ysgolion yng Ngwynedd

Mae llys wedi gweld tystiolaeth bod plentyn ysgol wedi defnyddio cerdyn banc mewn gwestai gwahanol ar yr un pryd ag oedd prifathro ysgolion yng Ngwynedd yn aros ynddyn nhw.

Mae Neil Foden, 66 oed, yn wynebu 20 cyhuddiad yn ymwneud â throseddau rhyw yn erbyn pump o blant, ac mae'n gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

Fe welodd y Llys ddydd Llun dystiolaeth yn dangos fod unigolyn sy’n cael ei adnabod fel ‘Plentyn E’ gan y llys, wedi defnyddio cerdyn banc mewn gwestai tu allan i Wynedd, ar yr un adeg ag oedd Neil Foden yn aros ynddynt.

Ar ddechrau ail wythnos yr achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Llun, dywedodd ‘Plentyn E’ y byddai’n mynd am deithiau y tu allan i Wynedd yn aml iawn gyda Neil Foden.

Roedd Plentyn E hefyd wedi benthyg arian i Mr Foden er mwyn “ail wneud ystafell ymolchi”, meddai wrth y llys.

Dywedodd ei bod yn rhywbeth cyffredin iawn iddi hi a Mr Foden dreulio “lot fawr o amser gyda’i gilydd” gan ddweud eu bod “yn aml yn gwneud pethau roedd pobl gyffredin sydd mewn perthynas arferol” yn eu gwneud.

Fe gyflwynodd yr erlyniad dystiolaeth ar ffurf cyfriflenni banc ac anfonebau gwestai i’r rheithgor, ac fe ofynwyd i blentyn E am rai o’r trosglwyddiadau ariannol yma.

“Fedrwch chi ddweud wrth y llys pam eich bod wedi tynnu £800 allan o’ch cyfrif banc ar un achlysur?” gofynodd John Philpotts ar ran yr erlyniad.

“Roedd Neil angen menthyg yr arian i orffen gwaith oedd yn cael ei wneud ar ei ystafell 'molchi yn ei gartref,” atebodd Plentyn E.

“Pam fod o wedi gofyn wrthych chi?” gofynnodd Mr Philpotts.

“Roedd o ychydig yn fyr o arian y mis hwnnw, a doeddwn i wir ddim yn meindio rhoi menthyg yr arian iddo,” atebodd y tyst. 

“Dim ond arian ydi o. Dyna mae pobl mewn perthynas yn ei wneud.”

‘Neb wedi credu y peth’

Wrth gael ei holi gan fargyfreithiwr Neil Foden, fe awgrymodd yr erlyniad mai rhamantu oedd plentyn E wrth sôn am gael “perthynas” â Neil Foden.

“Rydych chi’n dweud eich bod chi wedi bod yn cael perthynas rywiol gyda Mr Foden, tydi hynny yn syml ddim yn wir nac ydi?” meddai’r bargyfreithiwr Duncan Bould.

“Ydi mae o yn wir,” meddai plentyn E.

“Ddaru chi ddweud wrth unrhyw un am y berthynas?” ychwanegodd Mr Bould.

“Naddo, doeddwn i methu dweud wrth unrhyw un,” atebodd y tyst.

Fe ofynodd Mr Bould: “Pam ddim?”

Ac fe aeth y tyst ymlaen i ateb: “Fyddai neb wedi derbyn y peth gan ei fod yn brifathro, ac mi oedd y gwahanieth oed rhyngddom ni yn broblem amlwg.”

Mae’r achos yn parhau.

Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Cymorth S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.