Cyhuddo dau ddyn o lofruddiaeth wedi i weddillion dynol gael eu darganfod mewn gwarchodfa natur
Mae dau ddyn wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth wedi i weddillion dynol gael eu darganfod mewn gwarchodfa natur yn Salford ger Manceinion yn gynharach fis Ebrill.
Mae Michal Jaroslaw Polchowski, 68, a Marcin Majerkiewicz, 42, y ddau o Ffordd Worsley, Eccles, wedi eu cyhuddo wrth i'r heddlu ym Manceinion ddatgelu fod mwy o weddillon corff dynol wedi eu darganfod, ers y darganfyddiad ddechrau'r mis.
Cafodd torso, yn cynnwys gwaelod y cefn, pen ôl a chlun, eu darganfod mewn plastig clir ar wlypdiroedd Kersal Dale ar 4 Ebrill.
Cafodd rhagor o weddillion eu darganfod mewn dau leoliad arall dros y penwythnos. Fore Llun, dywedodd yr heddlu fod gweddillion hefyd wedi eu darganfod ar lwybr cul ger y rheilffordd oddi ar ffordd Worsley, Eccles.
Mae'r gwaith o geisio adnabod y corff yn ffurfiol yn parhau, ond y gred yw mai gweddillion dyn lleol yn ei chwedegau a gafodd eu darganfod yn Kersal Dale.
Yn ôl yr heddlu, mae rhagor o brofion yn cael eu cynnal ar y gweddillion sydd wedi eu darganfod mewn tri lleoliad arall, ond maen nhw'n credu mai gweddillion yr un dyn oedd yn y safleoedd hynny.
Mae disgwyl i Michal Jaroslaw Polchowski, 68, a Marcin Majerkiewicz ymddangos yn Llys Ynadon Tameside brynhawn Llun.