Llanelli: Dyn 39 oed wedi ei gyhuddo o ddynladdiad
29/04/2024
Mae dyn 39 oed o Lanelli wedi’i gyhuddo o ddynladdiad ar ôl marwolaeth dyn ifanc.
Cafodd yr heddlu eu galw i dŷ ar Stryd Robinson, Llanelli ar ôl pryderon am les dyn ar 25 Mawrth 2023.
Cafodd Liam Rhys Morgan-Whittle (uchod), 22 oed, ei gludo i'r ysbyty lle y bu farw.
Cafodd Jason Thomas ei arestio a’i ryddhau’n ddiweddarach ar fechnïaeth amodol tra bod ymchwiliad yr heddlu’n parhau.
Bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Llanelli ar 30 Mai.