Newyddion S4C

'Rwan ydy'r amser i fuddsoddi yn Wrecsam'

29/04/2024

'Rwan ydy'r amser i fuddsoddi yn Wrecsam'

Mae'r hen fanc yma yn atgof o orffennol ariannol disglair Wrecsam.

Bellach yn far newydd, mae 'na bres mawr wedi ei wario ar y lle.

A nifer eisiau gweld rhagor o fuddsoddi tebyg yn yr ardal yn fuan.

"Ni wedi gweld lot o newidiadau mewn buddsoddiad yma ond mae angen mwy.

"Dyna 'dan ni, fel grwp o bobl broffesiynol yn Wrecsam am weld.

"Ni am weld mwy o westai, bwytai a gweithgareddau yma... "..i sicrhau bod y momentwm yn cario 'mlaen."

Yn gyn-chwaraewr Wrecsam a Chymru mae Neil Roberts bellach yn gyd-berchennog ar y bar newydd ac yn credu mai rwan ydy'r adeg i fuddsoddi yn ei ddinas enedigol.

"What better time to do it now. "What Rob and Ryan have done... "..is they've given everybody the opportunity.

"They've given us hope and aspirations."

Ers i Rob McElhenney a Ryan Reynolds brynu'r clwb yn 2020 mae Wrecsam wedi bod ar daith ryfeddol.

O ddegawd a hanner o anobaith ar y cae pêl-droed i fod yn ennill yr ail ddyrchafiad o'r bron a'r clwb a'r ddinas mewn cyfres sy'n cael ei gwylio gan filiynau.

"Mae hi'n amser unigryw i Wrecsam. "Dw i'n meddwl buasai bob tref a dinas ym Mhrydain... "..yn rhoi miliynau i gael y cyfle yma.

"Rhaid i ni wneud y mwyaf o'r cyfle... "..a sicrhau bod y cyngor lleol yn gwneud bob dim sy'n bosib... "..i helpu unrhyw fuddsoddwyr i ddod i mewn a thrawsnewid y ddinas... "..a thrawsnewid economi'r ddinas."

Ar hyd a lled Wrecsam, mae ymwelwyr tramor yn enwedig o Ogledd America yn weddol gyffredin y dyddiau yma.

Tra roeddem ni yno, tarodd ymwelydd arbennig mewn i'r bar newydd.

"Positive things are happening for Wrexham... "..because of the football club.

"We hope that the hierarchies of Wrexham will take advantage of it... "..and see it as a golden opportunity for the town.

"It gets itself together and takes advantage of this opportunity... "..and starts creating things that brings in tourism and jobs."

Pwysleisio eu bod yn buddsoddi yn ninas Wrecsam mae'r llywodraethau.

Oes, mae 'na lwyddiant a buddsoddi ond teimlad bod rhaid i glwb a ddinas Wrecsam gymryd eu cyfleoedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.