Sadwrn Barlys: Pryderon na fydd y traddodiad yn parhau o achos costau cynyddol
Sadwrn Barlys: Pryderon na fydd y traddodiad yn parhau o achos costau cynyddol
Y paratoadau funud olaf cyn Sadwrn Barlys.
Ers 35 o flynyddoedd, mae bridfa Pengelli Fach ger Castell Newydd Emlyn wedi arddangos ceffylau yn un o ddigwyddiadau mwya tref Aberteifi.
"'Sdim byd tebyg arall i gael yng Nghymru.
"Chi'n mynd rownd y dre a 'sneb arall yn wneud shwt beth!"
Yr arddangosfa a'r orymdaith trwy ganol y dref, shwt deimlad yw hwnnw?
"Y teimlad gorau ti'n cael.
"Os ti'n dod i ben ac ennill y champion am rownd cyntaf... "..hwnnw yw'r teimlad gorau."
Yn arwain y cwbl. "Ie, fi yw'r bos!"
Mae gorymdaith Sadwrn Barlys yn denu pobl o bell ac agos gyda'r traddodiad yn dyddio nôl dros ganrif.
Yn gyfle i arddangos ceffylau gorau'r ardal ac yn ddathliad ar ddiwedd tymor hau hadau yn y byd amaethyddol.
Mae'n ddiwrnod arferol yma'n Aberteifi heddiw.
Yfory, bydd yr hewl yma ar gau a miloedd yn gwylio'r orymdaith y ceffylau a'r hen beiriannau.
Mae 'na bryder taw Sadwrn Barlys yfory fydd y Sadwrn Barlys olaf.
"Mae'n poeni ni oherwydd mae'r rheolau newydd yn costio arian.
"O ran y gofynion eleni ychwanegol... "..40 o signs newydd i osod ar hyd y dref.
"Mae angen walkie talkies ar bob stiward sy'n gost o £3,500.
"O'dd y signs yn £3,000.
"Gyda'r costau yn cynyddu bob blwyddyn, ble ni'n mynd?"
"Byddai fe'n drist iawn i dre Aberteifi... "..achos bod e mor fishi yn dod a phobl mewn.
"Byddai fe yn drist."
"Drist achos mae 'di bod 'ma am flynyddoedd.
"Mae ffarmwr yn teulu fi sy'n wneud Sadwrn Barlys.
"Bydd e'n drist iawn."
Dywedodd Cyngor Ceredigion taw cyfrifoldeb y rhai sy'n trefnu unrhyw ddigwyddiad yw sicrhau bod cydymffurfiaeth ag agweddau Iechyd a Diogelwch.
Maen nhw hefyd yn dweud nad y'n nhw'n ymwybodol o'r agweddau mae'r trefnwyr yn teimlo sy'n ormodol a'u bod yn croesawu trafodaeth.
Gethon ni ddim ymateb gan Heddlu Dyfed-Powys.
Fory, fe fydd canol Aberteifi yn llawn dathlu yn gyfle i bontio tref a chefn gwlad a sawl un yn gobeithio taw nid dyma'r Sadwrn Barlys ola ar lannau'r Teifi.