Newyddion S4C

Seren rygbi Lloegr Billy Vunipola wedi ei arestio yn Mallorca

29/04/2024
Billy Vunipola

Mae chwaraewr rygbi Lloegr, Billy Vunipola, wedi cael ei arestio yn dilyn digwyddiad treisgar honedig yn Mallorca.

Yn ôl adroddiadau, cafodd y dyn 31 oed ei ergydio ddwywaith gyda taser gan yr heddlu ar ôl cyrraedd clwb nos ym mhrifddinas yr ynys, Palma, yn oriau mân fore Sul.

Mewn datganiad ddydd Llun dywedodd Vunipola ei fod yn rhan o "gamddealltwriaeth anffodus" tra'n gadael y clwb a bod "dim trais, dim ymladd a doeddwn i heb fygwth unrhyw un ar unrhyw adeg".

Ychwanegodd ei fod wedi cael ei gyhuddo o wrthsefyll cael ei arestio ac yn dilyn "achos llys cyflym" wedi talu dirwy €240.

Dywedodd ei fod yn hedfan yn ôl i'r DU ddydd Llun a bod ymchwiliad yr heddlu yn Sbaen wedi dod i ben.

Dywedodd ei glwb, Saracens, eu bod nhw'n delio â’r mater yn fewnol. Mae Vunipola wedi dweud y bydd yn cydymffurfio â'r broses ac yn "ymddiheuro'n ddiamod am unrhyw anghyfleustra."

Mae disgwyl i Vunipola adael Saracens ar ddiwedd y tymor hwn ac mae wedi bod yn gysylltiedig â symudiad i Ffrainc - er nad oes unrhyw beth wedi'i gadarnhau.

Fe ddaeth ar y cae fel eilydd yn yr ail hanner i’r Saracens yn eu buddugoliaeth 15-12 dros Gaerfaddon nos Wener.

Bydd y clwb yn chwarae nesaf ar 11 Mai.

Treuliodd yr wythwr gyfnod o'i blentyndod yng Nghymru, wedi i'w dad arwyddo i clwb rygbi Pontypŵl yn 1998.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.