Prif Weinidog Yr Alban Humza Yousaf yn ymddiswyddo
Prif Weinidog Yr Alban Humza Yousaf yn ymddiswyddo
Mae Prif Weinidog Yr Alban Humza Yousaf wedi cyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo fel arweinydd ei blaid yr SNP.
Dywedodd y bydd yn parhau yn swydd y Prif Weinidog nes bod olynydd yn ei le.
Mae dyfodol Mr Yousaf wedi bod yn fantol ar ôl dod â chytundeb rhannu pŵer yr SNP â Phlaid Werdd yr Alban i ben yn sydyn ddydd Iau diwethaf.
Roedd hyn yn golygu ei fod yn arwain llywodraeth leiafrifol.
Dywedodd nad oedd wedi sylweddoli faint o "boen" y byddai ei benderfyniad i ddod â'r cytundeb gyda'r Gwyrddion i ben yn ei achosi.
Yn fuan ar ôl dod a'r cytundeb i ben cyhoeddwyd gan y Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr y byddai yn wynebu dwy bleidlais o ddiffyg hyder ynddo ef ei hun a Llywodraeth yr Alban.
Dywedodd Humza Yousaf fod llwybr drwy’r bleidlais o ddiffyg hyder yn “gwbl bosib”.
Ond ychwanegodd: “Nid wyf yn fodlon tanseilio yn fy ngwerthoedd na fy egwyddorion er mwyn cadw pŵer yn unig.”
Roedd wedi dweud i ddechrau nad oedd ganddo fwriad i ymddiswyddo ac ei fod yn bwriadu ennill y ddwy bleidlais o ddiffyg hyder.
Ond er mwyn gwneud hynny, roedd angen iddo sicrhau cefnogaeth gan o leiaf un aelod o'r gwrthbleidiau yn Holyrood.
Fe gafodd Mr Yousaf ei benodi yn Brif Weinidog Yr Alban ym mis Mawrth y llynedd, gan olynu Nicola Sturgeon.
'Blaenoriaethau'
Dywedodd llefarydd swyddogol Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak: “Pan ddaeth y Prif Weinidog i’w swydd fe soniodd ef a’r Prif Weinidog am fod eisiau cydweithio i ganolbwyntio ar y materion go iawn sydd o bwys i bobl.
“Bydd Llywodraeth y DU yn gweithio gyda’r weinyddiaeth newydd i’r un perwyl, sy’n cydweithio i gyflawni ar gyfer pobl yr Alban, boed hynny wrth dyfu'r economi, creu swyddi, neu wella diogelwch ynni.
“Mae'r rhan fwyaf o bobl eisiau gweld eu llywodraethau’n gweithio gyda’i gilydd i gyflawni eu blaenoriaethau.”