Newyddion S4C

Dyn o Brydain wedi ei anafu gan siarc yn Tobago

29/04/2024
Bae Courland

Mae dyn o Brydain a gafodd ei anafu’n ddifrifol mewn ymosodiad siarc yn Tobago yn “ymwybodol” ac yn “gallu cyfathrebu”, meddai ei wraig.

Roedd Peter Smith, 64, ar ynys y Caribî gyda'i wraig Jo a'i ffrindiau pan ymosododd siarc arno ym Mae Courland fore Gwener.

Arhosodd dau o'i ffrindiau yn y dŵr i "frwydro'r siarc", meddai Mrs Smith.

Mae ei gŵr mewn uned gofal dwys yn Ysbyty Cyffredinol Scarborough ar yr ynys ond mae mewn cyflwr sefydlog.

"Mae Peter yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd ac yn gallu cyfathrebu ychydig, er ei fod yn dal i fod dan feddyginiaeth gref," meddai ei wraig.

"Mae wedi dioddef niwed i'w fraich a'i goes chwith, clwyfau i'r abdomen ac anafiadau i'w law dde."

Ychwanegodd bod meddygon yr ysbyty nawr yn penderfynu ar "gwrs y driniaeth".

Dywedodd Tŷ’r Cynulliad Tobago fod y digwyddiad yn ymwneud â siarc tarw a'r gred oedd ei fod yn mesur rhwng wyth a 10 troedfedd o hyd a dwy droedfedd o led.

Mae siarcod tarw yn rhai ffyrnig ac i'w gweld yn aml mewn dŵr bas. Maent ymhlith y rhywogaethau sydd fwyaf tebygol o ddod i gyswllt ac ymosod ar fodau dynol.  

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.