Cymorth lles ar gael yn Ysgol Dyffryn Aman wrth iddi ailagor
Bydd cymorth ar gael i ddisgyblion ac athrawon Ysgol Dyffryn Aman wrth i'r ysgol ailagor am y tro cyntaf yn dilyn ymosodiad lle gafodd dwy athrawes ac un disgybl eu trywanu.
Mewn datganiad ddydd Sul dywedodd Heddlu Dyfed-Powys y bydd "ystod eang o gymorth lles yn parhau i gael ei gynnig i ddisgyblion, athrawon a staff yn yr ysgol".
Ychwanegodd y llu: “O ddydd Llun ymlaen, fe fydd tîm seicoleg addysg a phlant ar gael i ddisgyblion a staff yn yr ysgol a byddant yn cynnal presenoldeb yn yr ysgol am y bythefnos nesaf er mwyn darparu cymorth fel y bo angen."
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Ross Evans: “Hoffwn dawelu meddyliau rhieni a’r cyhoedd ein bod ni’n gweithio gyda’r ysgol ac asiantaethau eraill i sicrhau bod y cymorth priodol ar gael i bawb oedd ynghlwm â’r digwyddiad.
“Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi creu strategaeth er mwyn ymgysylltu gyda phob ysgol yn yr ardal yn dilyn y digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman.
“Gallwch ddisgwyl rhagor o ymgysylltiad gyda’ch Swyddog Heddlu Ysgol a thîm yr heddlu yn y gymdogaeth yn ystod yr wythnos. Gallwch gael sgwrs gyda’n swyddogion os oes unrhyw bryder gyda chi."
Athrawon
Fe wnaeth Heddlu Dyfed-Powys gadarnhau mai Fiona Elias a Liz Hopkin oedd y ddwy athrawes a gafodd eu trywanu yn yr ysgol ddydd Mercher.
Fe gafodd plentyn yn ei arddegau ei drywanu hefyd, ac fe gafodd y tri eu rhyddhau o'r ysbyty ddydd Iau.
Mae’r ddwy athrawes wedi diolch i bobl yn y gymuned am eu cefnogaeth.
Fe wnaeth merch 13 oed ymddangos o flaen Llys Ynadon Llanelli fore Gwener wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio tri o bobl yn dilyn y digwyddiad.
Cafodd y ferch ei chadw mewn sefydliad ieuenctid yn dilyn y gwrandawiad.
Cafodd yr achos ei drosglwyddo i Lys y Goron Abertawe lle bydd y ferch yn ymddangos ar 24 Mai.